Mae Academi Criced CAVC yn darparu’r platfform perffaith i gricedwyr talentog sy’n 16-19 oed, sydd â diddordeb mewn perfformiad a chriced ar lefel elitaidd.
Mewn partneriaeth â Chriced Morgannwg, mae Academi Criced CAVC yn darparu’r cyfleusterau, yr hyfforddiant, y cysylltiadau a’r cymorth cynhwysfawr diguro sy’n eich galluogi i gyflawni eich potensial.
Mae’r rhaglen wedi datblygu enw a hanes am feithrin a datblygu talent ym Morgannwg a Chymru, yn ogystal ag aelodau sy’n cyflawni o safbwynt academaidd.
Y cydbwysedd iawn
Hanes o lwyddiant
Cyfleusterau rhagorol
Hyfforddiant arbenigol proffesiynol
Cryfder a chyflyru proffesiynol a chymorth cynhwysfawr
Gornestau Ffantastig
Partneriaethau proffesiynol
Mae'r Academi yn cael ei harwain gan Adam Harrison sydd yn gyn-gricedwr proffesiynol i glwb Criced Sirol Morgannwg. Roedd ei yrfa'n ymestyn o 2003-2008, ond dim ond tair gêm Dosbarth Cyntaf, tair gêm Rhestr A a thair gêm 20/20 y chwaraeodd yn ystod yr amser hwnnw, cyn i anaf ffêr parhaus ei orfodi i ymddeol yn 22 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, cynrychiolodd Harrison dimau dan 13 i dan 19 Lloegr. Roedd y cyfnod yn cynnwys dau gwpan byd, tair cyfres brawf cartref a thaith dramor yn India. Cafodd Harrison ei ddewis hefyd fel myfyriwr rhan amser ar raglen Academi elît Lloegr yn eu lleoliad hyfforddi yn Loughborough yn ystod gaeaf 2004/5.
Ers iddo ymddeol, mae Adam wedi ennill gradd Dosbarth Cyntaf a TAR ac wedi gweithio yn y byd Addysg ers saith mlynedd. Am dair o'r blynyddoedd hynny mae wedi bod yn darparu a rheoli rhaglen lwyddiannus BTEC Lefel 3 Chwaraeon yng Nghlwb Criced Sirol Morgannwg. Mae Adam hefyd yn aseswr profiadol ar gyfer addysg Perason's fel un o'r Prif Ddilyswyr Safonau Chwaraeon.
Yn ychwanegol i'w brofiad yn chwarae ac yn y byd addysg, mae Adam hefyd yn hyfforddwr Perfformiad Lefel 3 profiadol ac wedi gweithio gyda sawl sgwad clwb, rhanbarthol a chenedlaethol.