Cyflogadwyedd a Sgiliau Bywyd

EL2 Lefel Mynediad 2
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl ifanc sy'n gweithio tuag at wella eu sgiliau byw'n annibynnol a chyflogadwyedd.  Mae ein cwrs Sgiliau Gwaith a Bywyd yn un o'n Llwybrau Dysgu Personol (PLP), sy'n cynnig yr hyblygrwydd i ddysgwyr ganolbwyntio ar feysydd o'u datblygiad personol sy'n bwysig iddynt.  Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i greu eu llwybrau dysgu eu hunain, yn seiliedig ar eu targedau, eu diddordebau a'u dyheadau personol.  Bydd dysgwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith grŵp ac unigol, o fewn y coleg a gyda phartneriaid allanol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Drwy gydol y flwyddyn academaidd, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i hwyluso datblygu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd.  Mae'r prosiectau hyn yn darparu profiadau dysgu ystyrlon, gan gynnig cyfle i ddysgwyr nodi eu cryfderau, eu rhinweddau a'u meysydd i'w gwella yn hawdd, mewn amrywiaeth o leoliadau.

Bydd dysgwyr yn dilyn llwybrau dysgu personol, yn seiliedig ar eu targedau unigol.  Gall y llwybrau hyn gynnwys dysgu yn y meysydd cwricwlwm canlynol;

  • Sgiliau Cyfathrebu
  • Sgiliau Byw'n Annibynnol
  • Iechyd a Llesiant
  • Sgiliau Gwaith
  • Ymgysylltu â'r Gymuned
  • Adeiladu Gwytnwch

Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i adnabod a chofnodi eu cynnydd a'u cyflawniadau mewn ffordd sy'n gyffrous ac yn hygyrch iddynt.  Gall hyn gynnwys adeiladu eBortffolios, defnyddio gwaith ysgrifenedig, ffotograffau, clipiau fideos, bachau sain a ffeithluniau. 

Mae ein cyrsiau Sgiliau Gwaith a Bywyd yn cael eu cefnogi'n dda gan staff o'n Tîm Anghenion Dysgu a Llesiant Ychwanegol yn CAVC.

Mae ein Llwybrau Dysgu Personol yn cynnig yr hyblygrwydd i ddysgwyr ganolbwyntio ar feysydd o'u datblygiad personol sy'n bwysig iddynt.  Am y rheswm hwn, mae'r cwrs hwn yn llwybr heb ei achredu.

Meini prawf dilyniant: Er mwyn symud ymlaen i Interniaeth Cyn-Gymorth rhaid eich bod wedi cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith a dangos parodrwydd i ddatblygu sgiliau cysylltiedig â gwaith pellach. Ar ôl cwblhau eich paratoad ar gyfer gwaith, os nad ydych yn barod i symud ymlaen i Interniaeth â chymorth efallai y cewch gynnig ail flwyddyn ar y cwrs hwn os:

1. Hon oedd eich blwyddyn gyntaf yn y coleg

2. Rydych wedi gwneud cynnydd yn erbyn eich targedau

Gofynion mynediad

Byddwch wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ac eisiau symud ymlaen i waith annibynnol. Bydd gennych ryw syniad o'r maes gwaith yr hoffech symud ymlaen iddo. Byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau pontio a hefyd i mynychu diwrnodau profiad i gwrdd â staff allweddol y coleg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PRCCPSI1
EL2

Cymhwyster

ILS Learning Programme (Pathway 3)

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n hoffi fy ngwersi, fy athro a bod gyda fy ffrindiau yn y coleg. Rwy’n mwynhau coginio a gweithio ar yr iPad yn fy ngwersi ac rwyf wedi dysgu ysgrifennu fy enw! Mae fy athrawon yn y coleg bob amser yn garedig ac yn hapus. Rwy’n hoffi dod i’r coleg gan fy mod wastad yn dysgu pethau newydd. Fy hoff beth i’w wneud yw pan rydym yn mynd ar y bws i siopa a phrynu cynhwysion ar gyfer ein gwersi coginio! Byddwn yn argymell i fy ffrindiau ddod i’r coleg gan ei fod yn wych ac yn hwyl!

Arfana Begum
Tuag at Annibyniaeth myfyriwr
Fideos

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE