Teilsio Waliau a Lloriau - Dechreuwr

L1 Lefel 1
Rhan Amser
2 Mai 2024 — 13 Mehefin 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i baratoi ardal weithio ddiogel i deilsio wyneb yn ogystal â dysgu technegau sylfaenol teilsio. Byddwch yn astudio'r pedwar deilliant canlynol:

  1. Gallu paratoi ardal weithio ddiogel.
  2. Gallu paratoi arwyneb.
  3. Gallu cymysgu a defnyddio glud a growt.
  4. Gallu atgyweirio teils.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y meysydd rydych yn eu hastudio yn eich galluogi i ddiwallu'r meini prawf asesu canlynol:

  • 1.1 Paratoi ardal weithio ddiogel. 
  • 1.2 Adnabod gwahanol beryglon iechyd.
  • 1.3 Nodi beth fyddai angen ei wneud i adfer gwahanol beryglon iechyd.
  • 2.1 Dewis a defnyddio offer priodol ar gyfer paratoi a theilsio.
  • 2.2 Paratoi arwyneb yn barod i'w deilsio.
  • 3.1 Cymysgu glud a growt i gysondeb priodol.
  • 3.2 Gosod glud a growt yn gywir.
  • 3.3 Glanhau a chaboli'r teils ar ôl growtio.
  • 4.1 Torri teils gan ddefnyddio'r technegau cywir.
  • 4.2 Atgyweirio amrywiaeth o deils yn defnyddio technegau safonol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Gofynion mynediad

Brwdfrydig gydag awydd i gyflawni, cyfweliad llwyddiannus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Mai 2024

Dyddiad gorffen

13 Mehefin 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.75 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

TICC1P01
L1

Cymhwyster

TG41WN001 Agored Level 1 Wall Tiling

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Fe ddewisais astudio yn y Coleg oherwydd y cyfleusterau sydd yno ac oherwydd i mi glywed cymaint o bethau da am y Coleg yn lleol. Rwyf wedi mwynhau datblygu fy sgiliau yn y gweithdai, gwneud ffrindiau a dysgu gan y staff a’r darlithoedd - maent yn wybodus dros ben.

Aram Elbadion
Cyn-fyfyriwr Teilsio Lloriau a Waliau gyda Phlymio Lefel 3

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE