Sgiliau Gwaith Mynediad Galwedigaethol

L1 Lefel 1
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cyrsiau Sgiliau Gwaith ar gyfer pobl ifanc sy'n gweithio tuag at gyflogaeth â chymorth neu gyflogaeth annibynnol.  Bydd y dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wersi yn yr ystafell ddosbarth, prosiectau grŵp a lleoliadau gwaith, o fewn y coleg a gyda chyflogwyr lleol.  Mae'r ymagwedd amrywiol yn darparu ein dysgwyr gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i fod yn weithwyr hyderus a llwyddiannus, sy'n barod i wynebu'r farchnad swyddi.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Drwy gydol y flwyddyn academaidd bydd dysgwyr yn meithrin gwell dealltwriaeth ac yn cynyddu gallu, yn y meysydd a restrir isod. 

  • Hunanasesu a datblygiad personol
  • Gweithio mewn tîm
  • Entrepreneuriaeth
  • Cyfrifoldebau a hawliau cyflogai
  • Iechyd a diogelwch
  • Paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith a dysgu oddi wrthynt
  • Adeiladu CV a gwneud cais am swyddi
  • Adeiladu gwytnwch

Bydd disgwyl i ddysgwyr hefyd barhau i wella eu sgiliau hanfodol, gan gynnwys gweithio tuag at gymwysterau mewn Cymhwyso Rhif (AON) a Chyfathrebu (Comms).

Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynnal naill ai portffolios papur neu e-bortffolios, gan gofnodi eu cynnydd a'u cyflawniadau yn erbyn meini prawf asesu.  Bydd disgwyl i ddysgwyr gynhyrchu tystiolaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys gwaith ysgrifenedig, ffotograffau, clipiau fideos, bachau sain a ffeithluniau.  Bydd y portffolios hyn yn cael eu hasesu ar ôl eu cwblhau.  Bydd dysgwyr hefyd yn cael eu harsylwi yn gwneud gweithgareddau ymarferol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Oherwydd natur y cwricwlwm, mae'n fanteisiol bod dysgwyr yn meddu ar lefel dda o sgiliau byw'n annibynnol, er mwyn manteisio ar yr ystod lawn o gyfleoedd sydd gan y cwrs hwn i'w cynnig.  Efallai y bydd dysgwyr sydd angen cymorth yn y maes hwn yn hoffi cael mynediad i'n cwrs Sgiliau Gwaith a Bywyd yn gyntaf, gyda'r nod o symud ymlaen i Sgiliau Gwaith yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

Gofynion mynediad

Bydd angen ichi fod â’r awydd i symud ymlaen at waith annibynnol. Byddai ymgeiswyr yn elwa o fod â 3 TGAU Graddau E-G. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

O fy nghwrs Mynediad Galwedigaethol, byddwn wedi gallu symud ymlaen at gyrsiau coginio, gwyddoniaeth neu chwaraeon ymhlith eraill, ond dewisais gwrs cerddoriaeth. Roedd cael cynifer o gyfleoedd i ddewis o’u plith yn wych. Symudais ymlaen wedyn at Gerddoriaeth a Pherfformio Lefel 2 a Lefel 3. Fy ngham nesaf yw mynd i’r brifysgol.

Mathew Williams
Cyn-fyfyriwr Mynediad Galwedigaethol a Cherddoriaeth a Pherfformi