Cymorth Cyntaf Rhithwir ar gyfer Iechyd Meddwl eMHFA (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae cwrs eMHFA Cymru yn addysgu oedolion am sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr a gellir ei gwblhau yn eich cartref neu eich swyddfa, heb fod angen teithio, ac yn eich amser eich hun drwy fodiwlau a gweminarau rhyngweithiol ar-lein.
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw'r help sy’n cael ei ddarparu i unrhyw berson sy'n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n sylwi bod problem iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes yn gwaethygu, neu unrhyw un sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. Mae’r cymorth cyntaf yn cael ei roi nes bod y cymorth proffesiynol priodol yn cael ei dderbyn neu nes bod yr argyfwng yn cael ei ddatrys.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
- Modiwl 1: Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
- Modiwl 2: Iselder
- Modiwl 3: Gorbryder
- Gweminar 1 – dan arweiniad y tiwtor
- Ni fyddwch yn gallu symud ymlaen i Fodiwlau 4 a 5 nes y byddwch wedi cwblhau Gweminar 1 gyda'ch Hyfforddwr.
- Modiwl 4: Seicosis
- Modiwl 5: Defnyddio Sylweddau
- Gweminar 2 – dan arweiniad y tiwtor
Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn cael defnyddio fersiwn ar-lein o Lawlyfr MHFA Cymru. Byddwch yn gallu cael mynediad i’r llawlyfr ar eich porwr, eich ffôn neu eich tabled o fewn 1 diwrnod gwaith i chi ymuno â'r cwrs. Os hoffech gael copi papur o'r llawlyfr, bydd cyfle i chi brynu un.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu