Ailorffen Cerbyd (Canolradd)

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r Cwrs Ail-orffennu Cerbydau Llawn Amser hwn yn ymdrin â phrif agweddau Ail-orffennu Cerbydau (Peintio) ar Lefel Ganolradd (Lefel 2). Mae'r cwrs hwn wedi'i leoli yn ein Canolfan Fodurol o safon diwydiant ar Heol Dumballs. Ar ein safle rydym yn defnyddio cerbydau a phanelau go iawn, ac yn defnyddio offer sy'n debyg i'r rheiny a ddefnyddir mewn gweithdai cyrff cerbydau. Bydd ymgeiswyr hefyd yn defnyddio'r bwth chwistrellu ar gerbydau o'r radd flaenaf sydd wedi'i osod yn ddiweddar.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs yn cynnwys y Sgiliau a'r Wybodaeth ganlynol:

  • Iechyd, diogelwch a chynnal trefn yn yr amgylchedd modurol
  • Cymorth ar gyfer swyddi yn yr amgylchedd gwaith modurol
  • Cyfarpar ac offer a ddefnyddir wrth ail-orffennu cerbydau
  • Cymhwyso llanwyddion a deunyddiau sylfaen
  • Paratoi wynebau metel ac wynebau sydd wedi'u rhag-beintio
  • Atgyweirio mân ddiffygion peintio
  • Gweithio gyda deunyddiau a chydrannau plastig

Mae'r prif gymhwyster yn ymdrin â nifer o'r elfennau a ddefnyddir yn y Brentisiaeth Ail-orffennu Cerbydau, a gellir ei ddefnyddio i gyflawni rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth.

Mae'r cwrs yn cael ei rannu 50-50 rhwng y gweithdy a'r ystafell ddosbarth, ac yn rhoi sylfaen gadarn i'r myfyrwyr yn y modd y mae gweithdy cyrff cerbydau yn rhedeg, gan eu paratoi at gyflogaeth. Cynhelir y cwrs dros ddau ddiwrnod a hanner, gan ganiatáu amser i fyfyrwyr weithio weddill yr wythnos.

Mae'r cwrs hwn yn dilyn Rhaglen Maes Dysgu Modurol (LAP) ac fel y cyfryw, yn cynnwys Unedau Sgiliau Hanfodol a'r posibilrwydd o wythnos o brofiad gwaith gyda gweithdy cyrff cerbydau lleol.

Gofynion mynediad

Cyflawni Lefel 1. 3 TGAU Gradd A* - D gan gynnwys Mathemateg (neu gyfwerth).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC2F03
L2

Cymhwyster

IMI Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Paentio i Drwsio Corff Cerbyd ar ôl Damwain

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.”

Omer Waheed
Atgyweirio Corff Cerbyd Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE