Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ceir (Cyflwyniad)

L1 Lefel 1
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Dwyrain Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd y cwrs Peirianneg Modurol Lefel 1 yn gweddu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes Mecaneg cerbydau ysgafn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cwrs yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Offer a Chyfarpar
  • Injans Cerbydau Ysgafn
  • System iro
  • System Oeri
  • Olwynion a theiars
  • Gwasanaethu
  • a llawer mwy…

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.