Atgyweirio Cyrff Cerbyd (Canolradd)

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Atgyweirio Corff Lefel 2 llawn amser yn mynd i'r afael â phrif agweddau Atgyweirio Corff Cerbyd ar lefel ganolradd. Gan astudio yn ein Canolfan Fodurol a gweithdai newydd yng Nghaerdydd, bydd dysgwyr yn gweithio gyda cherbydau a phanelau gwir, ac yn defnyddio offer sy'n debyg i'r rheiny a ddefnyddir mewn siopau corff cerbyd. Bydd gan ymgeiswyr hawl i ddefnyddio ein bwth chwistrellu o'r radd flaenaf hefyd, a gafodd ei osod yn ddiweddar. Trwy gydol y rhaglen, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth ochr yn ochr â staff cymwys y maes, wrth gymryd rhan mewn profiadau gwaith amrywiol.

Cynhelir y cwrs dros ddau ddiwrnod a hanner, gan ganiatáu amser i fyfyrwyr am gyflogaeth yng ngweddill yr wythnos. Mae'r prif gymhwyster yr un fath â hwnnw a ddefnyddir yn y Brentisiaeth Ail-orffennu Cerbyd, a gellir ei ddefnyddio i gyflawni rhan o Fframwaith y Brentisiaeth. Mae'r cwrs wedi'i rannu'n ddau hanner ar sail gwaith yn y gweithdy ac yn yr ystafell ddosbarth ac mae'n paratoi myfyrwyr at gyflogaeth drwy roi sylfaen dda iddynt yng ngweithrediad siop corff cerbyd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau / gwybodaeth yn y meysydd canlynol:

  • Iechyd, diogelwch a chynnal a chadw da yn yr amgylchedd modurol
  • Cefnogi swyddi yn yr amgylchedd gwaith modurol
  • Deunyddiau, ffabrigiadau, offer a dyfeisiau mesur a ddefnyddir yn yr Amgylchedd Modurol
  • Tynnu a gosod paneli corff cerbydau modur sydd heb eu gosod yn barhaol
  • Tynnu ac ailosod paneli corff allanol cerbyd modur gan gynnwys cydrannau sydd wedi'u gosod yn barhaol
  • Gwneud mân atgyweiriadau i baneli corff allanol cerbydau modur
  • Technegau weldio nwy gweithredol
  • Gweithrediadau sbotweldio gwrthiant
  • Adeiladu a deunyddiau cerbydau modur
  • Tynnu a gosod cydrannau mecanyddol, trydanol a thrim (MET) i gerbydau

Mae'r cwrs yn dilyn y Rhaglen Maes Dysgu Modurol (LAP) ac fel y cyfryw yn cynnwys Unedau Sgiliau Hanfodol a'r posibilrwydd o wythnos o brofiad gwaith mewn gweithdy lleol.

Gofynion mynediad

Cyflawni Lefel 1. 3 TGAU Gradd A* - D gan gynnwys Mathemateg (neu gyfwerth).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MVCC2F06
L2

Cymhwyster

IMI Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Trwsio Corff Cerbyd ar ôl Damwain

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Bu astudio yn CAVC yn brofiad pleserus iawn. Mae gan y Coleg y cyfleusterau gorau yng Nghaerdydd a bu’n gymorth i mi wrth gyflawni fy nodau.”

Omer Waheed
Atgyweirio Corff Cerbyd Lefel 3

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, mae'n bosib y bydd cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i'r rhaglen amser llawn Lefel 3 Ailorffen Cerbydau, neu Brentisiaeth Sylfaen mewn Ailorffen Cerbydau.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE