Criw Caban
Ynghylch y cwrs hwn
Mae ein Tystysgrif Lefel 2 mewn Criw Caban yn gwrs delfrydol ar gyfer yr unigolion hynny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant awyrennau. Wedi ei leoli yn ein Canolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofodol, bydd y cwrs rhagarweiniol hwn yn datblygu’r sgiliau personol a rhyngbersonol sy’n ofynnol i fod yn aelod o griw caban awyr neu bersonél maes awyr fel staff cofrestru mewn maes awyr. Mae’r rhaglen yn cwmpasu agwedd ddamcaniaethol y diwydiant, ynghyd â phwyslais ar astudiaeth ymarferol i gynnwys chwarae-rôl, dynwarediadau ac arsylwadau. Anogir myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil ac astudio wrth baratoi ar gyfer hyfforddiant cyflogaeth criw caban. Bydd siaradwyr gwadd o’r diwydiant yn ymgymryd â nifer o seminarau trwy gydol y cwrs, ac addysgir rhai dosbarthiadau ar ein Hawyren Boeing 737-200, gan ddarparu myfyrwyr gydag amgylchedd gwaith go iawn. Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn dod o hyd i waith ar ôl cwblhau’r cwrs.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Ymhlith yr unedau astudio mae:
- 2 uned yn benodol ar Griw Cabin Awyr
- Gweithdrefnau Argyfwng Awyrennau a rôl y Criw Cabin ar yr awyren
Mae'r cwrs hwn yn gofyn am 5 awr o astudio'r wythnos (gyda'r nos) 4pm - 9pm dros 10 wythnos.
Mae'r rhaglen yn dechrau ym mis Medi a mis Ionawr (2 waith y flwyddyn) i ganiatáu i'r dysgwyr gwblhau eu cwrs cyn i swyddi ddechrau dod allan (mae'r rhan fwyaf o swyddi'n dechrau ddiwedd mis Mawrth).
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £465.00
Gofynion mynediad
Cyfweliad llwyddiannus gan Diwtor y Cwrs.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
"Mae sawl cyfle fel ymweliadau astudio y gallwn eu cael ar hyd y fford. Mae’r profiad cyfan yn gwbl wych! Mae’r Coleg wedi fy helpu gyda fy ngyrfa yn y dyfodol gan fod llawer o help ar gael. Mae yna bobl y gallaf sirad â nhw a rhaglenni fel y rhaglen Barod am Yrafoedd. Mae gan y tiwtoriaid lawer o brofiad yn y gwethle felly maent yn gallu fy helpu."
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i weithio fel aelod o griw caban ar deithiau awyren neu fel asiant gwasanaethau teithwyr mewn maes awyr. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn symud ymlaen i'r llwybrau dilyniant, sy'n cynnwys Gweithrediadau Maes Awyr a Chwmnïau Hedfan Lefel 3 a Gradd mewn Rheoli Cwmni Hedfan a Maes Awyr.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu