Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl ifanc sy'n gweithio tuag at fywyd annibynnol, hapus a gweithgar ar ôl y coleg. Mae Tuag at Annibyniaeth yn un o'n Llwybrau Dysgu Personol (PLP), sy'n cynnig yr hyblygrwydd i ddysgwyr ganolbwyntio ar feysydd o'u datblygiad personol sy'n bwysig iddynt. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i greu eu llwybrau dysgu eu hunain, yn seiliedig ar eu targedau, eu diddordebau a'u dyheadau personol.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau sydd wedi'u cynllunio'n benodol i hwyluso cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd. Mae'r prosiectau hyn yn darparu profiadau dysgu ystyrlon, yn annog hunan-eiriolaeth ac yn hyrwyddo annibyniaeth.
Bydd dysgwyr yn dilyn llwybrau dysgu personol, yn seiliedig ar eu targedau unigol. Gall y llwybrau hyn gynnwys dysgu yn y meysydd cwricwlwm canlynol;
Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i adnabod a chofnodi eu cynnydd a'u cyflawniadau mewn ffordd sy'n gyffrous ac yn hygyrch iddynt. Gall hyn gynnwys adeiladu e-bortffolios, defnyddio gwaith ysgrifenedig, ffotograffau, clipiau fideos, bachau sain a ffeithluniau.
Mae ein Llwybrau Dysgu Personol yn cynnig yr hyblygrwydd i ddysgwyr ganolbwyntio ar feysydd o'u datblygiad personol sy'n bwysig iddynt. Am y rheswm hwn, mae'r cwrs hwn yn llwybr heb ei achredu.
Bydd angen ichi ymgymryd â chwrs er mwyn datblygu sgiliau annibynnol. Yn hytrach na gwneud cais ar-lein, caiff ceisiadau eu rheoli gan ein Swyddog Pontio ac Adolygu a fydd yn cysylltu â’n darparwyr addysg presennol. Gellir cysylltu â nhw drwy e-bostio hwilliams@cavc.ac.uk. Byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau pontio a hefyd yn mynychu diwrnodau profiad i gwrdd â staff allweddol y coleg.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Os ydych yn dangos cynnydd yn erbyn eich targedau cyflogadwyedd gallech symud ymlaen at ein cwrs Bywyd a Gwaith.
Os na fyddwch chi’n barod i symud ymlaen i gwrs sgiliau Bywyd a Gwaith ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallech gael cynnig ail flwyddyn ar y cwrs os mai:
1. Hon oedd eich blwyddyn gyntaf yn y coleg, ac
2. Rydych wedi gwneud cynnydd yn erbyn eich targedau.
Rwy’n hoffi fy ngwersi, fy athro a bod gyda fy ffrindiau yn y coleg. Rwy’n mwynhau coginio a gweithio ar yr iPad yn fy ngwersi ac rwyf wedi dysgu ysgrifennu fy enw! Mae fy athrawon yn y coleg bob amser yn garedig ac yn hapus. Rwy’n hoffi dod i’r coleg gan fy mod wastad yn dysgu pethau newydd. Fy hoff beth i’w wneud yw pan rydym yn mynd ar y bws i siopa a phrynu cynhwysion ar gyfer ein gwersi coginio! Byddwn yn argymell i fy ffrindiau ddod i’r coleg gan ei fod yn wych ac yn hwyl!