Teilsio Waliau a Lloriau - Blas

EL2 Lefel Mynediad 2
Rhan Amser
4 Tachwedd 2024 — 13 Rhagfyr 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu rhai o'r sgiliau a thechnegau a ddefnyddir mewn teilsio.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r meini prawf asesu yn cynnwys yn canlynol:  

  1. Arddangos defnydd o ddillad amddiffynnol.
  2. Adnabod yr offer sydd ei angen i deilsio.
  3. Sicrhau fod yr arwyneb sydd yn cael ei deilsio yn lân ac yn wastad.
  4. Gosod glud ar yr arwyneb yn barod i deilsio.
  5. Pwyso'r teils i'r safle cywir.
  6. Dodi growt yn y gwagle rhwng y teils
  7. Tynnu'r growt diangen.
  8. Caboli'r teils.
  9. Glanhau a thacluso'r man gweithio.
  10. Cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn briodol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £27.50

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Gofynion mynediad

Brwdfrydig gydag awydd i gyflawni, cyfweliad llwyddiannus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Tachwedd 2024

Dyddiad gorffen

13 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.75 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

TICCEP01
EL2

Cymhwyster

TG4E2CY001 Agored Entry Level 2 Skills for Tiling

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

9.1%

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i symud ymlaen at gwrs Dechreuwyr - Teilsio Waliau a Lloriau.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE