Tystysgrif ar gyfer Ymarferwyr Uwch mewn Ysgolion a Cholegau
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cymhwyster lefel 4 hwn yn amcanu i ddarparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i ymarferwyr sy'n gweithio mewn ysgolion a cholegau (e.g cynorthwyydd dysgu). Bydd dysgwyr yn datblygu a defnyddio sgiliau arwain, mentora, hyfforddi ac adlewyrchu wrth iddynt gwblhau'r cymhwyster drwy gyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, bydd y dysgwr yn Ymarferydd Uwch cymwys.
Mae'n rhaid i ddysgwyr fod â chyflogaeth mewn amgylchedd ysgol neu goleg ar Lefel 3 ac mae'n rhaid iddynt fod yn o leiaf 18 oed. Mae'n rhaid iddynt ddal cymhwyster Lefel 3 perthnasol a meddu ar gyfoeth o brofiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio mewn ysgolion a cholegau.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Y meysydd a ymdrinnir â nhw yn y cwrs hwn yw:
- Iechyd Meddwl a Llesiant
- Anghenion Ychwanegol ac Anabledd
- Gweithio gyda Theuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol Eraill
- Gweithredu Newid, Galluogi Unigolion i Ddysgu.
Bydd yr holl unedau'n cael eu hasesu'n fewnol gan ddefnyddio ystod o ddulliau a all gynnwys:
- Arsylwad uniongyrchol gan Diwtor / Athro / Asesydd o fewn y gweithle.
- Aseiniadau ysgrifenedig a thrafodaeth broffesiynol yn unol ag Asesiad Dysgu a ddarperir ar gyfer pobl uned.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £30.00
Ffi Cwrs: £95.00
Gofynion mynediad
Wedi'ch cyflogi mewn ysgol ac wedi cwblhau'r STLS Lefel 3. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 18 oed o leiaf a bod â chyfoeth o brofiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio mewn ysgolion a cholegau.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu