Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd ein cymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2 yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen wrth gynorthwyo addysgu a dysgu mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig. Yn cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, gan gefnogi'r rhai ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig a pherthynas cyfathrebu a phroffesiynol. Mae'r cymhwyster yn hanfodol i'r holl fyfyriwr sy'n ymgymryd â Phrentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 2 , ac mae'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl sy'n cynorthwyo dysgu'r disgyblion.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae 30 credyd yn ofynnol ar gyfer y Dystysgrif hon ac fe'i hasesir gan eich tiwtor neu asesydd gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Gallai hyn gynnwys arsylwi uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth, aseiniadau ysgrifenedig neu dasg. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn gweithio, yn gwirfoddoli neu ar leoliad ymarferol gan fod angen i chi ddangos cymhwysedd yn y ddau: gwybodaeth a sgiliau. A fyddech cystal â nodi fod gofyn i fyfyrwyr / ymgeiswyr gynnal Gwiriad DBS (gwiriad heddlu) cyn dechrau unrhyw hyfforddiant galwedigaethol neu brofiad gwaith yn y Blynyddoedd Cynnar neu'r Maes Gofal. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd hyn.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £550.00

Ffi Arholiad : £108.50

Gofynion mynediad

Rhaid bod yn o leiaf 18 oed. Gwiriad DBS Manwl a chyfredol. Llythrennedd a Rhifedd Lefel 1 - sgriniwr ar gael ar gais. Trefnir lleoliadau cyn dechrau’r cwrs.

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniadau Ysgrifenedig a phortffolio ac asesiadau gwaith

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Fideos

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i grŵp cymwysterau Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 3. Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, gan gynnwys:

  • Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu
  • Cynorthwy-ydd Anghenion Addysgol Arbennig

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ