Technolegau Peirianneg (Uwch / Gwell)

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws y Barri

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd y cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y maes Peirianneg.

Mae'r cwrs yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymarferol a all arwain at yrfa ym maes Peirianneg Drydanol, Fecanyddol, Cynnal a Chadw, Gwasanaethau Adeiladu neu Ddylunio.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio:

  • Hydroleg a Niwmateg
  • Electroneg
  • Gosodiadau Trydanol
  • CAD 2D
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Mathemateg
  • Ymarfer gweithdy mecanyddol/trydanol

Gofynion mynediad

5 TGAU A*- C yn cynnwys A*-B mewn Mathemateg. A*-C mewn Gwyddoniaeth a A*-D mewn Saesneg. Bydd dysgwyr angen darparu eu Hoferôls eu hunain ac esgidiau diogelwch ar gyfer y cwrs hwn.

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol a phortffolio

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

21 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MMCR3F10
L3

Cymhwyster

EAL Diploma Ategol Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rwyf wirioneddol wedi mwynhau’r sesiyani ymarferol ar y cwrs; ac mae’r cyfleusterau’n wych gan fof ganddynt bopeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer cyflogaeith yn y dyfodol.

Kieran Devine
Cyn-fyfyriwr Peirianneg Drydanol Lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi’r myfyrwyr i ddychwelyd ar gyfer Diploma neu Ddiploma Estynedig EAL mewn Technolegau Peirianyddol Uwch, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer ymuno â Phrentisiaeth Dechnegol/Beirianyddol.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ