Mae’r cwrs yn galluogi sgiliau arwain a hyfforddi unigolion i ddatblygu yn ogystal â gwaith grŵp effeithiol dros amryw o unedau hyfforddi a gweithgareddau anturus. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys arhosiad 2 noson yn cwblhau gweithgareddau awyr agored gwahanol, ar y tir ac yn y dŵr.
Rhennir y cwrs y ddwy adran. Yn yr adran Hyfforddi Chwaraeon bydd dysgwyr yn cynllunio, cyflawni a gwerthuso sesiynau hyfforddi yn ogystal â dadansoddi cyfranogwyr, eu technegau a’u sgiliau. Mae’r adran awyr agored yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y tir ac mewn dŵr, gan gynnwys cerdded bryniau, cyfeiriannu, padl-fyrddio, caiacio a dringo. Cymhwysir y dadansoddiad o berfformiad ar draws ddwy adran y cwrs
4 TGAU Gradd A* - D. Iaith Saesneg a / neu Fathemateg (neu gyfwerth) yn ddymunol neu Ddiploma Lefel 1 perthnasol mewn Chwaraeon. Mae’r gweithgareddau dŵr yn cael eu cynnal mewn afonydd, llynnoedd a'r môr. Byddai'r gallu i nofio yn ddymunol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wnes i ddim mwynhau’r ysgol gymaint â hynny, felly roedd symud draw i’r Coleg yn galluogi i mi gael dechrau newydd. Dewisais y cwrs hwn oherwydd y cyfleusterau gwych sydd yma, a’r addysgu rhagorol. Mae astudio Chwaraeon yn llawn amser wedi rhoi’r cyfle i mi ganolbwyntio ar rywbeth rwy’n meddwl cryn dipyn amdano yn hytrach na threulio fy amser ar bynciau nad oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Mae’r gymysgedd o elfennau theori ac ymarferol wedi helpu i wella fy ngwybodaeth am y pwnc ac i wella fy mherfformiad ar y cae hefyd.
Y llwybr datblygu o’r cwrs yw Hyfforddi Chwaraeon Lefel 3 NCFE neu lwybrau Gwyddor Chwaraeon.