Cymdeithaseg - UG

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae Cymdeithaseg yn astudio cymdeithas a sut mae’n dylanwadu arnom i fod y bobl yr ydym ni. Ar gyfer cymdeithasegwyr, mae ymddygiad dynol yn rhy gymhleth ac amrywiol i’w esbonio mewn termau biolegol neu enetig syml, ac mae cymdeithaseg fel pwnc yn gweld ein camau gweithredu fel canlyniad ein hamgylchedd cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn dysgu i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd penodol, a’n diwylliant ni sy'n ein dysgu sut dylem feddwl a gweithredu. Y ddealltwriaeth hon o’r cysylltiad rhwng diwylliant ac ymddygiad dynol sydd wrth wraidd cymdeithaseg. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen Cymdeithaseg Safon UG yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Efallai y bydd yn bosibl i ddysgwyr hefyd ddilyn y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs, fe drafodir y meysydd canlynol:

UG Uned 1: Caffael Diwylliant

Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud, 60 marc - 15% o’r cymhwyster Safon Uwch (37.5% o gymhwyster Safon UG).

Mae’r uned hon yn ffocysu ar thema cymdeithasoli, hunaniaeth a diwylliant ac wedi ei rhannu yn ddwy adran:

Adran A yr uned yw’r adran ofynnol ac mae'n archwilio’r prif gysyniadau a phrosesau trosglwyddiad diwylliannol, yn cynnwys cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth. Yn yr arholiad, mae Adran A yn werth 15 marc ac yn cynnwys un cwestiwn strwythuredig ar gysyniadau a phrosesau allweddol trosglwyddiad diwylliannol, cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth.

Mae Adran B yr uned yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gysyniadau a phrosesau allweddol cymdeithasoli a diwylliant trwy astudiaeth fanwl o deuluoedd a chartrefi.

Yma mae myfyrwyr yn datblygu dwyster gwybodaeth a dealltwriaeth gynyddol o’r deunydd pwnc a gallu i ddadansoddi, cymhwyso a gwerthuso theorïau a thystiolaeth gymdeithasegol. Yn yr arholiad, mae Adran B yn werth 45 marc ac yn cynnwys cwestiwn gofynnol a dewis rhwng dau gwestiwn traethawd.

UG Uned 2: Deall Cymdeithas a Dulliau Ymholi Cymdeithasegol

Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 90 marc - 25% o’r cymhwyster Safon Uwch (62.5% o gymhwyster Safon UG).
Mae uned 2 yn ffocysu ar themâu cymdeithasoli, hunaniaeth a diwylliant a dulliau ymholi cymdeithasegol, ac mae wedi ei rhannu yn ddwy adran:

Adran A yr uned - Dulliau Ymholiad Cymdeithasegol – mae’n ofynnol ac yn archwilio dulliau o ymholi cymdeithasegol ac yn werth 35 marc. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau cymdeithasegol a materion methodoleg allweddol a defnyddio enghreifftiau o ymchwil gymdeithasegol gyfoes gan gyfeirio at enghreifftiau Cymreig i arddangos eu gwybodaeth a dealltwriaeth.

Mae adran B yr uned – Deall Cymdeithas – yn datblygu dealltwriaeth o themâu allweddol cymdeithasoli, diwylliant a hunaniaeth. Gofynnir i’r myfyriwr ystyried themâu gwahaniaethiad, pŵer a haeniad trwy astudiaeth fanwl o addysg.

Gofynion mynediad

Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd. 
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.

Charlotte Hall
Yn astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, y Gyfraith, Seicoleg a Bagloriaeth Cymru

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Addysg Gymunedol
  • Cwnsela
  • Rheoli Gwybodaeth
  • Newyddiaduriaeth
  • Y Gyfraith
  • Cymdeithaseg
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Addysgu

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL