Cymdeithaseg - A2
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r cwrs Cymdeithaseg A2 hwn yn dilyn ymlaen o Cymdeithaseg UG a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Gall fod yn bosibl dilyn y cwrs hwn fel myfyriwr rhan amser.
Mae Cymdeithaseg A2 yn cynnwys dwy uned sy'n trafod Pŵer a Rheolaeth, ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol a Dulliau Cymhwysol o Ymholi Cymdeithasegol. Trwy gydol eu hastudiaeth o Gymdeithaseg ar lefel A2, bydd disgwyl i fyfyrwyr adeiladu ar eu dealltwriaeth o’r pwnc a gaffaelwyd ar lefel UG er mwyn datblygu lefelau uwch o wybodaeth a dealltwriaeth.
Beth fyddwch yn ei astudio?
A2 Uned 3: Pŵer a Rheolaeth
A ydych chi erioed wedi gyrru'n gyflymach na’r terfyn cyflymder? A ydych chi erioed wedi cael eich dal yn pigo eich trwyn yn gyhoeddus? A gawsoch chi eich blas cyntaf ar alcohol yn yr oed cyfreithiol? A ydych chi'n tyllu rhan o’ch corff na fyddai eich mam-gu wedi bod eisiau i chi ei dyllu? A ydych chi wedi gweithio rhywle a mynd a beiro, pensil neu baced o nodiadau gludiog adref gyda chi?
Os ydych chi'n gallu rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, rydych chi'n enghraifft o beth mae cymdeithaseg yn ceisio ei ddeall ac esbonio yn y rhan yma o’r cwrs.
Y prif opsiwn fyddwch chi'n ei astudio yn yr uned hon fydd trosedd a gwyrni. Bydd dealltwriaeth o drosedd yn cynorthwyo dealltwriaeth o bŵer o fewn cymdeithas heddiw. Gwneid hyn trwy gaffael dealltwriaeth o reolaeth gymdeithasol a’r amrywiol drafodaethau seicolegol ynghylch y pwnc, yn cynnwys pethau megis beth yw trosedd a gwyrni? rhywedd a throsedd, dosbarthiad cymdeithasol trosedd a gwyrni a theorïau ynghylch trosedd a gwyrni ymysg eraill.
Mae A2 Uned 3 yn cael ei asesu trwy arholiad ysgrifenedig 2 awr yn cynnwys un cwestiwn gofynnol ac un traethawd o ddewis o ddau.
A2 Uned 4: Anghydraddoldeb Cymdeithasol a Dulliau Cymhwysol o Ymholi Cymdeithasegol. Mae dwy elfen i'r uned hon. Sef Dulliau Cymhwysol o Ymholi Cymdeithasegol ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol.
Bydd yr elfen gyntaf yn gweld myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o ddulliau ymchwil er mwyn eu helpu i ddeall bywyd cymdeithasol ymhellach. Fe wneir hyn trwy’r arfer o ddylunio ymchwil ac adeiladu ar wybodaeth o ddulliau cymdeithasegol a ddysgwyd trwy astudio Uned 2 y Safon UG.
Mae’r ail elfen yn canolbwyntio ar anghydraddoldeb cymdeithasol neu ddosbarthiad anghyfartal cyfoeth, grym neu urddas ymysg aelodau cymdeithas. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o anghydraddoldeb cymdeithasol trwy archwilio pynciau maent wedi eu hastudio’n flaenorol a thrwy ddangos dealltwriaeth o sut mae dosbarth, oed, rhyw, ethnigrwydd a chymdogaeth yn ganolog i’r drafodaeth.
Asesir A2 Uned 4 gydag arholiad ysgrifenedig 2 awr a 15 munud. Mae Dulliau Cymhwysol o Ymchwilio Cymdeithasegol yn cynnwys cwestiwn gofynnol *ac fe arholir Anghydraddoldeb Cymdeithasol gyda myfyrwyr yn ateb *un cwestiwn gofynnol ac un cwestiwn traethawd o ddewis o ddau.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Addysgu ac Asesu
- Dau asesiad ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
- Mae’r Coleg yn croesawu cyswllt gyda rhieni/gwarcheidwaid myfyrwyr sydd dan 18 oed
- Mae cefnogaeth atodol ar gael i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymroddedig i gynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol y byddwn hyrwyddo cydraddoldeb cyfle ac yn trin pawb yn deg a gyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r cwrs yma heb rybudd o flaen llaw
- Mae’r cyrsiau i gyd yn gywir ar yr adeg y’i huwchlwythir neu wrth fynd i’r wasg
- Dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal cyrsiau
- Sylwer, os byddwch chi’n dewis tri neu fwy dewis o gwrs, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio am apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Penderfynais astudio yn y Coleg gan fy mod eisiau teithio a bod yn fwy annibynnol - mae’r campws mor fodern ac yn edrych yn wych. Ar ôl gweld y llyfrgell roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Heb air o gelwydd, y llyfrgell oedd y prif atyniad i mi, roedd yna cymaint o lyfrau yna, roeddwn wrth fy modd.
Daeth rhywun i siarad â ni am Ymddiriedolaeth Sutton, sy’n rhoi blas i fyfyrwyr o fywyd mewn prifysgolion Americanaidd. Gwnes gais i fod yn rhan o’r rhaglen - roedd yn gystadleuol iawn ond cefais fy newis i gymryd rhan. Roeddem yn ymweld â thalaith wahanol bob dydd, a
buom i lawer o wahanol golegau gan gynnwys Princeton a Harvard. Treuliais wythnos hefyd ym Mhrifysgol Warwick ac wythnos ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn brofiad mor dda - roeddwn wrth fy modd. Rydych yn cael llawer o gefnogaeth yn y Coleg, yn enwedig gan y tîm Gyrfaoedd a Syniadau.
Rwy’n meddwl bod yna lawer mwy o gyfleoedd yma gan ei fod yn goleg mor fawr gyda chymaint o adnoddau.
Angen gwybod
Ein Rhaglen Ysgolheigion Safon Uwch
Cefnogaeth Dysgu