Sylfeini gweithio ym maes iechyd a gofal

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi ei ddylunio ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol ac eisiau mynd i’r maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant. Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio fel bod dysgwyr yn datblygu eu hyder, eu gwytnwch, a dealltwriaeth o hunanreoli wrth iddynt ennill sgiliau a gwybodaeth berthnasol i’r maes iechyd/gofal cymdeithasol/gofal plant. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol fydd yn cynnig i’r dysgwyr fewnwelediad i faes gwerth chweil gofal ac iechyd. Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei ddylunio i ddatblygu eu gallu i gydweithio a gweithio’n annibynnol.

Meini prawf dilyniant: cwblhau eich cwrs presennol yn llwyddiannus a phresenoldeb o 90%.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd E-G, gan gynnwys Saesneg Iaith. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn gallu mynd yn eu blaen i gyrsiau Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu’n syth i lefel 2 ar gyfer y rhai sy’n ennill y lefel briodol mewn Cymwysterau Sgiliau Hanfodol. 

Lleoliadau

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Penally Road
Trelái
Caerdydd

CF5 5XP

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL