Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster wedi’i ddylunio i ddatblygu darpar weithwyr gwybodus a pharod. Bydd yn galluogi dysgwyr i baratoi i wneud cais am swydd neu’n rhoi sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach a datblygiad tuag at gymhwyster mynediad gwasanaeth penodol.

Bydd y cymhwyster hwn yn:

  • canolbwyntio ar astudio’r gwasanaethau mewn lifrai
  • cynnig astudiaeth eang a thrylwyr, gan ymgorffori craidd allweddol o wybodaeth
  • rhoi cyfleoedd i ennill nifer o sgiliau ymarferol a thechnegol

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn ennill:

  • dealltwriaeth o’r sector gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai
  • y cyfle i archwilio cyfleoedd gyrfa yn y gwasanaethau mewn lifrai
  • y cyfle i archwilio rolau gwirfoddoli a’r sgiliau trosglwyddadwy y gall gwirfoddoli eu rhoi ar gyfer y gweithle
  • y gallu i baratoi ar gyfer cyfweliad recriwtio • dealltwriaeth o’r ymrwymiad personol a’r gofynion ffitrwydd sydd eu hangen i gael eich cyflogi mewn rôl gwasanaethau mewn lifrai
  • dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd a hylendid ar gyfer y rhai mewn rolau gwasanaethau mewn lifrai
  • y cyfle i ddeall a datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i weithio mewn amrywiaeth o wasanaethau mewn lifrai, e.e gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, llywio ac ymarferion. 

Mae rhai modiwlau y gallech eu hastudio ar y cwrs yn cynnwys:

  • Cyflogaeth yn y gwasanaethau mewn lifrai
  • Ffitrwydd corfforol
  • Gwaith tîm
  • Llywio tir
  • Gweithgareddau anturus
  • Chydraddoldeb ac amrywiaeth

Cyfleusterau

Defnyddio’r gampfa, cyfleusterau chwaraeon, MoD ac awyr agored.

Gofynion mynediad

4 TGAU Gradd A*-D. Saesneg Iaith a/ neu Fathemateg (neu gyfwerth ) yn ddymunol neu Ddiploma Lefel 1 perthnasol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae’r cwrs wedi agor cymaint o ddrysau i wahanol yrfaoedd i mi. Rwyf wrth fy modd gyda’r cyfleusterau ac mae’r tiwtoriaid yn hynod gymwynasgar.

Sophie Marie Ventrice
Sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 ar hyn o bryd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£32,500

Ar hyn o bryd, mae 13,000 o bobl yn gweithio mewn galwedigaethau Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwasanaethau Mewn Lifrau gyda chyflog cyfartalog o £32,500 y flwyddyn. (Lightcast, 2022).

Symud ymlaen i Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus neu i gyflogaeth.

Lleoliadau

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ