Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymwysterau hyn wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth fanwl i ddysgwyr o egwyddorion y sector gwasanaethau mewn lifrai ac i’w galluogi i archwilio’r gwahanol lwybrau gwaith yn y maes. Byddant hefyd yn galluogi dysgwyr i ennill sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio yn y gweithle neu mewn astudiaeth bellach.

Bydd y cymwysterau hyn yn:

  • canolbwyntio ar astudio’r gwasanaethau mewn lifrai o fewn y sector gwasanaethau cyhoeddus
  • cynnig astudiaeth eang a thrylwyr, gan ymgorffori craidd allweddol o wybodaeth
  • rhoi cyfleoedd i ennill nifer o sgiliau ymarferol a thechnegol cysylltiedig â gwaith.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Nod y cymwysterau hyn yw rhoi’r canlynol i ddysgwyr:

  • dealltwriaeth o’r sector gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai
  • y cyfle i ymchwilio i gyfleoedd gyrfa yn y gwasanaethau mewn lifrai
  • y gallu i baratoi ar gyfer cyfweliad recriwtio
  • dealltwriaeth o’r ymrwymiad personol a’r gofynion ffitrwydd sydd eu hangen i gael eich cyflogi mewn swydd gwasanaeth mewn lifrai
  • dealltwriaeth o’r sefydliadau allanol sy’n effeithio ar waith y gwasanaethau mewn lifrai ac yn dylanwadu arno
  • dealltwriaeth o sut mae sefydliadau gwasanaethau mewn lifrai yn ymateb i sefyllfaoedd argyfwng
  • y cyfle i ddeall a datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i weithio mewn ystod o wasanaethau mewn lifrai e.e sgiliau arweinyddiaeth, sgiliau hyfforddi, rheoli gwrthdaro, amddiffyn eich hun, gwaith tîm, cyfathrebu, llywio ac ymarfer.

Gall y modiwlau a astudir gynnwys:

  • Gyrfaoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus
  • Arweinyddiaeth a gwaith tîm
  • Ffitrwydd corfforol
  • Llywio tir
  • Cynllunio ar gyfer argyfwng

Cyfleusterau

Defnyddio’r gampfa, cyfleusterau chwaraeon, MoD ac awyr agored.

Gofynion mynediad

5 TGAU Graddau A* i C gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg (neu gyfatebol) neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol - Gwasanaethau Cyhoeddus

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Mae’r cwrs wedi agor cymaint o ddrysau i wahanol yrfaoedd i mi. Rwyf wrth fy modd gyda’r cyfleusterau ac mae’r tiwtoriaid yn hynod gymwynasgar.” 

Sophie Marie Ventrice
Sy’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 ar hyn o bryd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£32,500

Ar hyn o bryd, mae 13,000 o bobl yn gweithio mewn galwedigaethau Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwasanaethau Mewn Lifrau gyda chyflog cyfartalog o £32,500 y flwyddyn. (Lightcast, 2022).

Symud ymlaen i HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng, cyrsiau Addysg Uwch eraill neu gyflogaeth.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ