Plastro
Ynghylch y cwrs hwn
Cyflwynir y cwrs hwn yn rhan amser ac mae'n gofyn presenoldeb o un diwrnod yr wythnos, bydd ein staff profiadol a chymwys yn eich cefnogi a'ch arwain chi i fodloni lefel cymhwysedd y Corff Dyfarnu.
Byddwch yn dysgu sgiliau Plastro hanfodol gan arbenigwyr yn y sector a chewch eich addysgu i ddeall dyluniadau gwaith, mathau o strwythurau, defnyddio gwahanol ddeunyddiau plastro yn ogystal â sut i reoli eich hun ac eraill ar safleoedd adeiladu.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Y prif bynciau a ymdrinnir â nhw yn y cymhwyster hwn yw:
- Gofynion Iechyd a Diogelwch diweddar. Mae'r rhain yn hanfodol ar gyfer gweithio ar safle adeiladu
- Mathau o ddeunyddiau plastro, technegau cymhwysiad a chefndiroedd gwahanol
- Cymhwyso rendrad / bwrdd a sgim
- Deall dyluniadau gwaith
Addysgu ac Asesu
Bydd dysgwyr ar y rhaglen hon yn derbyn cynllun hyfforddiant a fydd yn cael ei drefnu o'r sgriniad mynediad. Cewch gymorth i ddatblygu'ch sgiliau dwylo a gwybodaeth ddiwydiannol i lefelau'r corff dyfarnu.
I lwyddo yn y cwrs hwn, bydd angen i chi gwblhau'r holl asesiadau ymarferol a damcaniaethol yn llwyddiannus, gwneir yr holl asesiadau i fodloni gofynion y corff dyfarnu.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £30.00
Gofynion mynediad
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'u hawydd a'u hymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maent yn dymuno ei astudio.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu