HNC mewn Peirianneg (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs yn cynnig nifer o opsiynau i rai sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes Peirianneg. Os ydych yn brentis neu wedi astudio cwrs Peirianneg lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg Gyffredinol, Gwaith Trydanol/Electroneg, Gweithgynhyrchu, Gwaith Mecanyddol neu Fecatroneg, mae'r cwrs hwn yn gam delfrydol ymlaen tuag at radd neu ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
Byddai'r cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr sy'n awyddus i ychwanegu at eu pwyntiau UCAS
drwy ennill unedau Peirianneg ychwanegol.
Gallwn gynnig yr opsiwn amser llawn a'r opsiynau rhan-amser, gan roi'r hyblygrwydd i chi allu mynychu o gwmpas ymrwymiadau gwaith neu amgylchiadau personol.
Ceir bwlch sgiliau cynyddol a phrinder talent yn y gweithlu Peirianneg. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol, effeithlonrwydd a gweithgynhyrchu uwch wedi dod yn hanfodol i gwsmeriaid. Yn ffodus, mae datblygiadau ym maes technoleg yn rhoi inni'r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymdeithas a'n planed. Mae Peirianwyr yn dylunio, gwneud a gwella'r amrywiaeth eang o dechnoleg sydd o'n cwmpas - o geir ac awyrennau i esgidiau chwaraeon, dyfeisiau symudol ac amrywiaeth eang o brosesau gweithgynhyrchu uwch. Mae peirianwyr wedi cael dylanwad ar ran sylweddol o'r byd modern. Nhw sydd wedi rhoi inni ffonau symudol, gorsafoedd pŵer niwclear, peiriannau anadlu mecanyddol, argraffu 3D a lled-ddargludyddion - gallai'r rhestr fynd ymlaen am byth. Mae swyddi peirianneg ar gael ar bob lefel.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
- Llwybr I:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Drydanol ac Electronig)
- Llwybr II:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Gweithgynhyrchu)
- Llwybr III:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Fecanyddol)
- Llwybr IV: HNC/D Peirianneg (Peirianneg Gyffredinol)
Lefel 4 HNC Peirianneg (Unedau Craidd)
Rhif y Modiwl | Teitl y Modiwl | Lefel | Gwerth Credydol |
| Craidd | | |
1 | Dylunio Peirianneg | 4 | 15 |
2 | Gwyddoniaeth Peirianneg | 4 | 15 |
3 | Mathemateg Peirianneg | 4 | 15 |
4 | Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol (gosodir gan Pearson) | 4 | 15 |
Bydd unedau dewisol yn wahanol ar sail llwybrau unigol sy'n cael eu rhedeg, yn dibynnu ar recriwtio. Efallai y bydd hyn yn gofyn am fynychu safle arall.
Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys profion, arholiadau, aseiniadau, astudiaethau achos a phrosiectau (cysylltiedig â gwaith).
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £0.00
Gofynion mynediad
Yn achos myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, mae'r proffil mynediad yn debygol o gynnwys 48 pwynt tariff UCAS a gafwyd o un o'r canlynol: ● Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (gyda phroffil Teilyngdod yn ddelfrydol) ● Proffil Lefel Uwch TAG sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) ● Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill ● Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy ● Profiad gwaith cysylltiedig ● Cymwysterau rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu