Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu) (CPD)
Ynghylch y cwrs hwn
Bydd y llwybr Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu o'r HNC Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn datblygu eich sgiliau a gwybodaeth gydfynd â'r llwybrau Mecanyddol a Thrydanol o fewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu.
Datblygwyd y rhaglen hon i dynnu sylw ar y prinder sgiliau presennol o fewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, yn benodol Gosodiadau Trydanol, Plymio, Gwresogi ac Awyriad ac Aerdymheru.
Mae Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu) yn bwnc delfrydol i fyfyrwyr sydd eisiau bod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu (Gosodiadau Trydanol neu Blymio a Gwresogi) neu ddilyn unrhyw lwybr gyrfa broffesiynol arall yn y sector.
Bydd y rhaglen yn darparu'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i ddatblygu'n bellach o fewn y diwydiant peirianneg gwasanaethau adeiladu ac agor y drws at yrfa newydd. Bydd yn eich darparu chi â chymhwyster cydnabyddedig a fydd yn gwasanaethu fel sylfaen i gyflawni eich gradd.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu ystod eang o feysydd pwnc ac mae wedi'i gwneud o nifer o unedau gorfodol ac opsiynol, gan gynnwys
- Gwyddoniaeth a Deunyddiau
- Technoleg Adeiladu
- Rheolaeth ac Ymarfer Adeiladu
- Mathemateg mewn Adeiladu
- Egwyddorion Dylunio a Gosod Gwasanaethau Gwresogi
- Egwyddorion Dylunio a Gosod Aerdymheru ac Awyru
- Egwyddorion Dylunio a Gosod Trydanol
- Grŵp Prosiect
Mae'r cyfuniad o unedau wedi'i osod allan yn glir yn y fanyleb BTEC ar gyfer pob llwybr.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £0.00
Gofynion mynediad
48 Pwynt Tariff UCAS o’r llwybrau a restrir isod: • Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (neu bwnc perthnasol) • Proffil TAG Lefel Uwch sy’n arddangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn o leiaf 2 bwnc TAG; mae’r proffil hwn yn debygol o fod wedi’i ategu gan TGAU graddau A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) mewn pynciau fel mathemateg a Saesneg • Cymwysterau Lefel 3 perthnasol eraill • Mynediad at Ddiploma Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy • Cyfwerth rhyngwladol â’r uchod. Ymgeiswyr hŷn (21 oed a hŷn): Os nad ydych yn meddu ar y cymwysterau a restrir, ond yn meddu ar brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi wneud cais. Bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail unigol. CDP/Offer sydd ei angen: Gliniadur, Esgidiau Diogelwch, Llyfr Nodiadau, Deunydd Ysgrifennu, Cof Bach.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rwyf wedi mwynhau bod o gwmpas Campws Canol y Ddinas, mae'n amgylchedd braf ac mae pawb yn cyd-dynnu'n dda. Uchafbwynt fy amser yn y coleg oedd gwneud ffrindiau newydd a'r amgylchedd gwahanol i'r ysgol. Gallwch ennill sgiliau newydd a gwneud pethau nad oeddech yn meddwl y gallech eu gwneud o'r blaen.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu