Hyfforddwr Ffitrwydd

L2 Lefel 2
Rhan Amser
5 Tachwedd 2024 — 6 Chwefror 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cymhwyster lefel 2 hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n frwdfrydig am chwaraeon ac ymarfer corff ac sydd eisiau cychwyn gyrfa ym maes ffitrwydd. Byddwch yn ennill cymhwyster proffesiynol, gyda llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i'r cwrs Hyfforddwr Personol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Gall y pynciau gynnwys:

  • Gwybodaeth am ymarfer corff a ffitrwydd
  • Hyfforddwr Campfa
  • Cyfathrebu ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd
  • Anatomeg a Ffisioleg

Bydd angen ichi brynu’r llawlyfrau adnoddau o fewn 2 wythnos gyntaf y cwrs am gost o £30.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £60.50

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Tachwedd 2024

Dyddiad gorffen

6 Chwefror 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

SPCC2P11
L2

Cymhwyster

YMCA Lefel 2 Tystysgrif mewn Cyfarwyddo Ffitrwydd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

8,000

Mae gan Alwedigaethau Chwaraeon weithlu cynyddol o dros 8,000 gydag amcangyfrif o 1,600 o swyddi ychwanegol erbyn 2026 ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd. (Lightcast, 2022).

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE