Llunio a Dylunio (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
2 Mai 2022 — 15 Gorffennaf 2022
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Nod y cwrs lluniadu a darlunio deng wythnos hwn yw eich cyflwyno i ffyrdd creadigol o gyfathrebu syniadau yn weledol. 

Crëwyd y ddelwedd uchod gan Eleana Nisse sydd wedi astudio’r cwrs hwn yn y gorffennol.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Trwy'r cwrs hwn byddwch yn treialu amrywiaeth o dechnegau traddodiadol a digidol gan gynnwys lluniadu arsylwadol, paentio, adrodd straeon a thrin delweddau digidol. Bydd tasgau a gweithdai dan arweiniad tiwtor yn eich helpu i ddatblygu eich iaith weledol eich hun er mwyn cyfleu syniadau, teimladau a gwybodaeth. 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £0.00

Gofynion mynediad

Bydd ymgeiswyr delfrydol yn gyfarwydd â hanfodion Celf a Dylunio. Rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn. Dymunol i'r ymgeisydd ddangos portffolio o waith.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Mai 2022

Dyddiad gorffen

15 Gorffennaf 2022

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CDCC3P03
L3

Cymhwyster

Unit 12 Fine Art Materials Techniques an

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

16.0%

O fewn y diwydiannau Creadigol, rhagwelir bron i 3,000 o swyddi’n cael eu creu rhwng nawr a 2024 a thwf o 16.0% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (EMSI, 2018).

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE