DiSC - Gwaith Arweinwyr (CDP)

L5 Lefel 5
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r adnodd a’r gweithdy yma’n berthnasol i arweinwyr ar bob lefel, yn ogystal â staff sydd eisiau symud i swyddi arweinyddiaeth. Mae’n edrych ar arweinyddiaeth fel perthynas un-i-lawer (yn hytrach nag un-i-un). Gan ganolbwyntio ar ddeall sut mae tueddiadau arweinwyr yn dylanwadu ar eu heffeithiolrwydd mewn sefyllfaoedd arwain penodol, bydd pawb sy’n dod ar y cwrs yn derbyn adroddiad unigol ar eu steil bersonol, gyda ffocws cadarn ar arweinyddiaeth.  

Wedi’i gyfuno gyda gweithdy undydd yn seiliedig ar arferion gorau, mae Gwaith Arweinwyr yn cysylltu eich steil arweinyddiaeth unigryw chi â gofynion y byd real, gan greu sgyrsiau pwerus sy’n darparu llwybr clir ar gyfer gweithredu.

Cynnwys

Bydd pob unigolyn sy’n dod ar y cwrs yn cael dolen fewngofnodi unigryw ar gyfer asesiad ar-lein byr cyn y gweithdy. Ar ddiwrnod y gweithdy, bydd adroddiad personol yn cael ei roi i chi’n manylu ar ble rydych chi’n perthyn ar Fap Arweinyddiaeth DiSC, beth yw eich blaenoriaethau arweinyddiaeth a sut gallant effeithio ar y sbardunau allweddol sy’n sail i arweinyddiaeth effeithiol. Bydd hwyluso difyr, trafod â rheolwyr eraill a naratif gyfoethog, gref yn ychwanegu dyfnder at y data a bydd cymhorthion gweledol cadarn yn cefnogi’r broses ddysgu a negeseuon allweddol. 

Mae’r diwrnod yn canolbwyntio ar y canlynol;

  • Gweledigaeth 
  • Unioni
  • Gwneud i bethau ddigwydd
  • Cynllunio i Weithredu
  • Pob un gyda’ch adroddiad proffil unigol.
Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSDISC01M
L5

Cymhwyster

DiSC Work of Leaders

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE