Rheoli Credydau a Chasgliadau (PLA)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae Diploma Uwch CICM (Sefydliad Siartredig Rheoli Credydau) yn cynnig gwybodaeth hanfodol am feysydd rheoli credyd allweddol a mwy o allu i arloesi, arwain timau a gweithredu mewn amgylcheddau busnes cymhleth. Mae'r cymhwyster yn dangos lefel uchel o wybodaeth ac arbenigedd mewn rheoli credyd a'r gallu i fanteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd y swyddogaeth credydau.
Mae Gweminar Sgiliau Lefel 5 Hanfodol yn cynnig cyngor ar sut i fynd at y cwrs Diploma Uwch mewn Rheoli Credydau a Chasgliadau ac aseiniadau ysgrifenedig.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Os byddwch yn pasio pedwar dyfarniad, byddwch yn ennill y Diploma Uwch mewn Rheoli Credydau a Chasgliadau. Mae'r cymhwyster yn cael ei reoleiddio gan Ofqual ac mae'n hwyluso cynnydd i radd lefel uwch fel cymwysterau gradd MBA.
Gwobrau
• Rheoli Risg Credydau Uwch
• Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol
• Cynllunio Strategol
• Achosion Cyfreithiol ac Ansolfedd
• Cyfathrebu Strategol ac Arweinyddiaeth
• Gwella Prosesau
Ar ben hynny, mae'r Diploma Uwch yn rhoi cymhwysedd i Fod yn Aelod Graddedig o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Credydau ac i'r llythrennau proffesiynol MCICM(Grad) ar gyfer y rhai sydd wedi’i gyflawni.
Mae'r Diploma Uwch Lefel 5 yn cymryd 24 mis i'w gwblhau, tua 16 awr y mis.
Mae'r astudio yn digwydd mewn ystafell ddosbarth rithwir ar-lein. Cynhelir 6 sesiwn x 2 awr dros nifer o wythnosau, gyda'r nos yn ystod yr wythnos, gydag wythnosau darllen wedi'u hamserlennu rhyngddynt ar gyfer astudio ac ymchwil annibynnol. Dylai'r dysgwyr fod yn barod i hunanastudio 5 i 6 awr yr wythnos hefyd.
Gofynion mynediad
Dyma'r gofynion mynediad ar gyfer Diploma Uwch:
Diploma Canolradd CICM
a/neu
Isafswm gradd Aelodaeth Gyswllt CICM
Mae CICM yn argymell yn gryf y dylid pasio cymwysterau canolradd neu eithriadau mewn Rheoli Credydau, Egwyddorion Cyfrifyddu, yr Amgylchedd Busnes a Chyfraith Busnes oherwydd bod y rhaglen yn cymryd gwybodaeth gadarn am y meysydd hyn.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu