Goruchwylwyr Adeiladu - Sgiliau Llythrennedd Digidol (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Cafodd y cwrs ei ddylunio i helpu crefftwyr sy'n pontio i rolau goruchwyliol, sydd angen defnyddio TG a meddalwedd ddigidol yn ddyddiol, i greu e-byst, cyflwyniadau a diweddaru amserlenni a rhaglenni.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cyflawni lefel 3 City and Guilds mewn Llythrennedd Digidol.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Bydd gweithgareddau dysgu'n cynnwys;
• Defnyddio gwybodaeth ddigidol sydd mewn fformat addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd i gwblhau tasgau cymhleth neu ddatrys problemau cymhleth
• Cywiro, trefnu a dosbarthu gwybodaeth ddigidol yn fformat strwythuredig gan ddefnyddio strategaethau mynegeio priodol.
• Cynnal uwch chwiliadau gan ddefnyddio peiriannau chwilio, swyddogaethau a nodweddion priodol
• Dewis dulliau digidol priodol ar gyfer cyfathrebu gyda thîm
• Defnyddio a gwerthuso'r cyfuniad mwyaf addas o offer digidol
Darperir y cymhwyster hwn drwy weithdai ac yn y dosbarth. Asesir asesiadau drwy dasgau a reolir a osodir gan y sefydliad dyfarnu.
Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio cyfleusterau TG y coleg pan ddarperir y cwrs ar y safle, fodd bynnag, byddai'n fanteisiol pe byddai gan ddysgwyr eu gliniaduron personol eu hunain i gynnal gweithgareddau myfyrwyr a thasgau ymarfer y tu allan i'r coleg.
Ar ôl cwblhau sgiliau llythrennedd digidol lefel 3 ar gyfer goruchwylwyr adeiladu. Mae nifer o lwybrau cynnydd megis Tystysgrif CIOB lefel 4 mewn Goruchwylio Safle neu Lefel HNC mewn Adeiladu a'r amgylchedd Adeiledig.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £0.00
Gofynion mynediad
Mae angen i fyfyrwyr fod yn gweithio o fewn y diwydiant adeiladu gyda chyfrifoldebau goruchwylio.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu