Yn ystod y cwrs 5 diwrnod dwys hwn, byddwch yn dysgu sut i osod, gweithredu, a chyflunio rhwydwaith IPv4 ac IPv6 sylfaenol ac yn dod yn gyfarwydd â dyfeisiadau rhwydweithio Cisco. Mae CCNA Llwybro a Switsio yn ardystiad cyswllt y mae galw mawr amdano ar gyfer peiriannydd rhwydwaith, gweinyddwr, neu arbenigwr, gan ei fod yn galluogi dilyniant gyrfa ac yn datblygu gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar y rhwydwaith.
- Hanfodion Rhwydwaith
- Mynediad Rhwydwaith
- Cysylltedd IP
- Gwasanaethau IP
- Hanfodion Diogelwch
- Awtomeiddio a Chyfathrebu
*Asesir y cymhwyster hwn drwy arholiad*
Mae’r ardystiad hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n ceisio derbyn ardystiad Llwybro a Switsio CCNA. Mae'r cwrs hwn hefyd yn addas ar gyfer technegwyr cymorth sy’n ymwneud â gosod, gweithredu a dilysu rhwydweithiau LAN elfennol.
Nid oes unrhyw ragofynion cyn sefyll y cwrs hwn - fodd bynnag, bydd ymgeiswyr yn ffynnu os oes ganddynt lythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol a sgiliau Gweithredu Cyfrifiaduron Personol. Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen mynediad i gyfrifiadur/gliniadur gyda rhyngrwyd.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.