Mae galw mawr am Benseiri Datrysiadau AWS ardystiedig, sy’n gallu darparu arweiniad gweithredol drwy gydol cylch bywyd prosiect, ac sy’n gallu dyfeisio a defnyddio cymwysiadau cadarn, cryf ar dechnolegau AWS.
Wrth symud i’r cam nesaf ar eich taith AWS, hwn yw’r cwrs i chi os ydych chi’n Bensaer Datrysiadau profiadol sy’n gallu dylunio datrysiadau aml-haen, hybrid a graddfa menter gyda gwasanaethau AWS.
Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n cyflawni rôl Pensaer Datrysiadau ac sydd ag o leiaf dwy flynedd o brofiad ymarferol o reoli a gweithredu systemau ar AWS. Darllenwch y Gofynion Mynediad.
Mae’r cwrs 4 diwrnod hwn yn rhedeg yn rheolaidd, a bydd cynrychiolwyr yn trefnu dyddiadau dechrau cwrs yn uniongyrchol gyda darparwr y cwrs ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid.
Maes Llafur Proffesiynol Pensaer Datrysiadau AWS:
o Cymhwyso Fframwaith Pensaernïaeth Dda AWS
o Rheoli sawl cyfrif AWS ar gyfer eich sefydliad
o Cysylltu canolfan ddata ar safle â'r Cwmwl AWS
o Trafod goblygiadau bilio cysylltu VPCs aml-ranbarth
o Symud data mawr o ganolfan ddata ar safle i AWS
o Dylunio storfeydd data mawr ar gyfer Cwmwl AWS
o Deall gwahanol ddyluniadau pensaernïol ar gyfer gwefan fawr
o Amddiffyn eich seilwaith rhag ymosodiadau gwrthod gwasanaeth wedi'i ddosbarthu (DDOS)
Cynhelir y cwrs 4 diwrnod hwn ar-lein drwy ystafell ddosbarth rithiol, ar benwythnosau Dydd Sadwrn-Sul 9am-6pm.
Bydd angen cyfrifiadur/gliniadur gyda microffon a chamera arnoch.
Cynhelir y cwrs ar benwythnosau yn olynol. Bydd oriau astudio ychwanegol, yn eich amser eich hun
Ar ôl 4x diwrnod o astudio, bydd dysgwyr yn archebu eu harholiadau eu hunain ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
Fformat arholiad: aml-ddewis, sawl ateb.
Hyd: 180 munud.
Mae’r ardystiad hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio mewn rôl Pensaer Datrysiadau, gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad. Argymhellir bod gennych y wybodaeth a’r cymwyseddau canlynol:
• Dwy flynedd neu fwy o brofiad ymarferol yn dylunio a defnyddio pensaernïaeth cwmwl ar AWS.
• Y gallu i werthuso gofynion cymhwysiad Cwmwl, a gwneud argymhellion pensaernïol.
• Dylunio proses integreiddio a defnyddio barhaus.
• Yn gyfarwydd â thempledi AWS CloudFormation, Billing Console a Management Console.
• Gallu esbonio a chymhwyso pum piler Fframwaith Pensaernïaeth Dda AWS.
• Dylunio pensaernïaeth hybrid gyda thechnolegau AWS allweddol, fel VPN ac AWS Direct Connect.
• Yn gyfarwydd ag iaith sgriptio ac amgylcheddau Windows a Linux.
• Dylunio proses integreiddio a defnyddio barhaus.
Rhagofynion
Yn ogystal â meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau uchod, argymhellir hefyd eich bod eisoes wedi cwblhau eich cymhwyster Cyswllt AWS Pensaer Datrysiadau Arystiedig ac wedi pasio eich arholiad cyn cofrestru ar gyfer yr ardystiad hwn.