Asesu Cymhwysedd yn yr Amgylchedd Gwaith (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol yn gymhwyster ymarferol wedi’i anelu at unigolion sy’n asesu galluoedd galwedigaethol mewn amgylchedd gwaith a sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol mewn amgylcheddau ar wahân i’r gweithle (h.y. gweithdy, dosbarth, neu amgylchedd hyfforddiant arall).
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Bydd ymgeiswyr sy’n dymuno cwblhau’r cwrs hwn yn arddangos gallu yn y meysydd canlynol:
- Arsylwi Perfformiad yn yr Amgylchedd Gwaith
- Defnyddio Eraill (Datganiadau Tyst)
- Archwilio Cynnyrch Gwaith
- Cwestiynu'r Dysgwr
- Trafod gyda’r Dysgwr
- Edrych ar Ddatganiadau Dysgwr
- Cydnabod Dysgu Blaenorol.
Rhagwelir y bydd ymgeiswyr yn cwblhau’r cwrs hwn dros 5 diwrnod, mae hyn yn cynnwys tiwtorialau grŵp a chyflwyno elfen theori'r asesiad.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Amser o'r dydd
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu