Adobe Premiere Pro (PLA) Uwch

L4 Lefel 4
Rhan Amser
7 Mai 2024 — 21 Mai 2024
Campws Canol y Ddinas

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Premiere Pro wedi’i ddylunio ar gyfer llif gwaith ôl-gynhyrchiad golygydd fideo ac fe'i defnyddir gan grëwyr cynnwys a gwneuthurwyr ffilmiau i olygu ffeiliau fideo. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â phrofiad o ddefnyddio Premiere Pro ac sy’n dymuno dod yn Ddefnyddiwr Ardystiedig.

Bydd y cwrs yn darparu fideos ‘rhagarweiniol’ i’r feddalwedd drwy ddull dysgu cyfunol, a fydd yn gloywi dealltwriaeth myfyrwyr o hanfodion Premiere Pro. Bydd dysgwyr yn cael mynediad at y fideos cyn dyddiad cychwyn y cwrs, cyn mynychu'r dosbarth, i astudio pynciau uwch Premiere Pro, gyda thiwtor profiadol.

Cynhelir y cwrs dros gyfnod o 3 wythnos, i ganiatáu amser rhwng gwersi i ddysgwyr ymarfer yr hyn maent wedi ei ddysgu yn ystod eu gwers. Ar ddiwrnod olaf y cwrs byddwch yn sefyll arholiad sydd wedi’i gymeradwyo gan Adobe i ennill statws Arbenigwr Ardystiedig Adobe mewn Premiere Pro. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn byddwch yn mynd i'r afael â:

  • Cromliniau handles a bezier
  • Priodweddau Masg
  • Haenau Addasu
  • Creu a defnyddio Haenau Addasu
  • Cryfderau a chyfyngiadau
  • Rotosgopio
  • Gwahanu'r blaendir oddi wrth y cefndir
  • Masgiau animeiddio
  • Defnyddio'r Offeryn Brwsh Roto
  • Olrhain Mudiant
  • Deall sut mae olrhain mudiant yn gweithio
  • Sefydlogi mudiant
  • Gosod olrhain data ar haen arall
  • Animeiddio testun
  • Gweithio gyda haenau testun
  • Rhagosodiadau animeiddiad
  • Defnyddio animeiddwyr testun
  • Dewiswyr ystod
  • Animeiddio Ffeiliau Fector
  • Defnyddio'r Offeryn Pin Pyped
  • Creu rhwyll
  • Creu fframiau allwedd o binnau pyped
  • Allforio
  • Deall Render Queue a'i briodweddau
  • Gwahanol fformatau ffeil
  • Codecs
  • Allforio ar gyfer gwahanol lwyfannau

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £660.00

Gofynion mynediad

Byddai'n ddymunol i ymgeiswyr fod â gwybodaeth sylfaenol am sut i ddefnyddio cyfrifiadur.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Mai 2024

Dyddiad gorffen

21 Mai 2024

Rhan Amser

21 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

DMCC4PX3
L4

Cymhwyster

Adobe Premier Pro

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas
Campws Canol y Ddinas

45a Stryd Masnach,
Caerdydd 
CF10 5DT