ITIL® 4 yw'r diweddariad diweddaraf o fframwaith mwyaf poblogaidd y byd ar gyfer Rheoli Gwasanaethau TG ac mae'n cynnig ffocws o'r newydd ar arferion sy'n cael eu sbarduno gan werth ac optimeiddio Gwasanaethau TG. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio fel cyflwyniad a fydd yn galluogi’r cyfranogwyr i fynd i'r afael â heriau rheoli gwasanaeth newydd a defnyddio potensial technoleg fodern.
Rhaid i chi gael mynediad i gyfrifiadur/gliniadur i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn.
Mae'r cwrs hwn yn rhedeg 9am-5pm (tua) ar-lein dan arweiniad tiwtor.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Mae'r cwrs Sylfaen ITIL® 4 hwn wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i gyfranogwyr o fframwaith ITIL® a'i rôl mewn ITSM modern. Dyma’r modiwlau a drafodir ar y cwrs hwn a'r pynciau fyddant yn eu cynnwys:
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs hyfforddi Sylfaen ITIL® 4 hwn yn addas i unrhyw un sy'n ymwneud â darparu, cefnogi neu gyflwyno gwasanaethau TG ac nid oes unrhyw ofynion ymlaen llaw i ddilyn y cwrs hwn.
Dulliau Asesu
Cwestiynau Aml-Ddewis. 60 Munud, Arholiad Llyfr Caeedig
Cyflwyno
2 ddiwrnod
Llun - Mawrth.
Ystafell ddosbarth rithwir ar-lein
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.