Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy'n awyddus i gael gyrfa fel barbwr dan hyfforddiant cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) mewn Barbro Lefel 2, ac a gydnabyddir gan gymdeithas broffesiynol blaenllaw'r DU (Cymdeithas Barbwyr Prydain - BBA) fel y safonau addas i baratoi dysgwyr am yrfa fel barbwr dan hyfforddiant.
Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.
Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel barbwr dan hyfforddiant gan gynnwys:
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi'r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yn ddibynnol ar eu llwybr gyrfa dynodedig fel barbwr dan hyfforddiant.
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol a dau arholiad ysgrifenedig mewn Ymgynghoriadau Siampŵ a Chyflyru.
Bydd pob dysgwr hefyd yn gyfrifol am ddod â'u modelau eu hunain i mewn fel sylfaen cleientiaid er mwyn cwblhau eu hasesiadau.
Bydd angen i'r holl ddysgwyr brynu pecyn barbwr llawn, yn ogystal â'r cyfarpar diogelu personol ar ddechrau'r cwrs. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar ddiwrnodau'r cyfweliadau. Bydd rhestr o'r cit llawn ar gael i'w brynu ar wahân.
Gellir defnyddio cyrhaeddiad Lefel 1 blaenorol mewn cymhwyster trin gwallt/barbro neu bydd angen o leiaf 3 gradd TGAU A*-D mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg, neu gymhwyster lefel 2 cyfwerth. Bydd angen i chi gyflawni cyfweliad llwyddiannus a chwblhau asesiad cychwynnol. Bydd dysgwyr hefyd yn gyfrifol am ddod â'u modelau eu hunain i mewn fel sylfaen cleientiaid er mwyn cwblhau eu hasesiadau. Bydd angen i bob dysgwr brynu cit barbro llawn ychwanegol, yn ogystal â’r offer diogelu personol ar ddechrau’r cwrs. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi ar ddiwrnod y cyfweliad. Bydd rhestr o’r cit llawn ar gael i’w phrynu ar wahân.
Asesiadau Ymarferol
2 Arholiad Ysgrifenedig:
Ymgynghori
Siampŵ a Chyflyru
Costau ychwanegol ar gyfer iwnifform a’r cit barbro llawn i gael eu cadarnhau wrth gofrestru.
Chi fydd yn gyfrifol am drefnu eich modelau eich hun ar gyfer asesiadau ymarferol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Fy nyddiau gorau yn y coleg yw pan fyddwn ni'n dysgu technegau newydd, sy'n ein cadw'n gyfoes â'r diwydiant trin gwallt. Mae'r tiwtoriaid yn wirioneddol hyfryd a chefnogol ac maen nhw'n eich helpu gymaint ag y gallant.
Gall myfyrwyr fynd ymlaen i wneud cwrs Trin Gwallt Lefel 2.