Therapi Harddwch a Sba

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 18 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Therapi Sba a Harddwch Cyffredinol (QCF) wedi'i dargedu at y dysgwyr hynny sy'n awyddus i weithio a datblygu eu sgiliau mewn amgylchedd masnachol. Dim ond y colegau hynny sydd â salon neu fynediad at salon 'go iawn', yn hytrach nag amgylchedd gweithio realistig, sy’n cael darparu'r cymhwyster hwn, ac mae’n rhaid iddi gynnwys yr holl elfennau er mwyn gweithio'n effeithiol fel Therapydd Harddwch , gan gynnwys:

Triniaeth wyneb argymhellol

Mireinio aeliau a blew amrannau – siapio aeliau a lliwio aeliau/blew amrannau

Gwasanaethau wacsio

Triniaeth Dwylo

Triniaeth y traed Colur

Effeithiolrwydd yn y gwaith

Iechyd a diogelwch

Hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau ychwanegol i gleientiaid

Cynorthwyydd sba; bydd y therapyddion yn y cymhwyster hwn yn cynorthwyo yn y Sba fel rhan o'u cwrs, bydd disgwyl iddynt baratoi, gwirio a chynnal cyflwr cyffredinol ac ymddangosiad ystod eang o wasanaethau sba.

Anatomeg a Ffisioleg

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio'n effeithiol fel Therapydd Harddwch; Iechyd a Diogelwch Salon. Ymgynghori â chleientiaid.   Triniaeth wyneb presgripsiwn.    Lliwio aeliau a blew amrannau.   Gosod a thynnu blew amrannau ffug. Colur ar gyfer y dydd, gyda’r nos ac achlysuron arbennig. Trin Dwylo a Thrin Traed Technegau wacsio.  Paratoi ar gyfer triniaethau a chynorthwyo yn y Sba.

Anatomeg a Ffisioleg

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith mewn Salon/Sba weithredol a phrysur er mwyn cyfoethogi eu sgiliau.  Mae hyn yn ofynnol ar gyfer y cwrs llawn amser. Bydd hyn yn cynnwys gweithio rhai dyddiau Sadwrn a gyda’r nosau.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Salon: £30.00

Gofynion mynediad

3 TGAU Gradd A*-D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, wedi cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg yn dangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da. 

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus ac asesiad ymarferol gan gynnwys arholiadau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

18 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

20 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

HBCC2F30
L2

Cymhwyster

VTCT Diploma NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch Cyffredinol

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau."

Freya Rees
Cyn-fyfyriwr Harddwch lefel 2 a 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).
  • Therapi Harddwch Lefel 3
  • Therapïau Cyflenwol Lefel 3
  • Trin Gwallt Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser gyda ffi

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE