DipHE mewn Perfformio a Recordio

L5 Lefel 5
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 23 Mai 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi eisiau ehangu ar eich doniau fel artist sy'n perfformio a recordio? Ydych chi'n artist perfformio neu'n ysgrifennu a chanu caneuon ac eisiau bod yn gerddor proffesiynol?

Mae'r cwrs hwn wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r galw presennol gan y diwydiant cerddoriaeth. Ei nod yw datblygu eich sgiliau fel perfformiwr a chyfansoddwr, yn ogystal â'ch gwybodaeth dechnegol, a rhoi i chi ddealltwriaeth hanfodol o'r diwydiant er mwyn adeiladu eich gyrfa gerddorol.

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth arbennig o gyfleusterau technegol a stiwdios. Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gydag offer proffesiynol a meddalwedd diweddaraf y diwydiant, stiwdio recordio ac ystafell gymysgu â sain amgylchynol, felly mae'n un o'r canolfannau sain gorau yng Nghaerdydd.

Yn dilyn cwblhau’r DipHE yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r cwrs Perfformio a Recordio Cerddoriaeth (Anrh) Atodol a gynhelir yn y Coleg hefyd, i ennill gradd anrhydedd lawn.

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR08, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd un hanner o'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar berfformio a chrefft llwyfan, tra bydd y llall yn mynd i'r afael â'r canlynol:

  • ysgrifennu a threfnu caneuon
  • recordio, cymysgu a chynhyrchu mewn stiwdio
  • rheoli, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo

Ein nod yw eich helpu chi i ddatblygu fel cerddor, perfformiwr ac arweinydd band, wrth roi i chi ddealltwriaeth gadarn o farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo. Yn ogystal â derbyn hyfforddiant unigol ar yr offeryn o'ch dewis drwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa o weithdai a sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar grefft llwyfan, recordio, cymysgu, cynhyrchu a chyfeiriad cerddorol. 
Yn cael ei arwain gan diwtoriaid profiadol sy'n gweithio yn y busnes cerddoriaeth ar hyn o bryd, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1 (lefel 4):

  • Perfformio ar gyfer Recordio
  • Theori Recordio
  • Arferion Recordio
  • Perfformio Sefyllfaol
  • Ysgrifennu a Threfnu Caneuon

  • Deall Diwydiannau Creadigol 

Blwyddyn 2 (lefel 5)

  • Celfyddyd Perfformio
  • Recordio Cerddoriaeth
  • Arwain mewn Perfformiad
  • Dulliau Ymchwil ar gyfer Perfformio a Recordio
  • Deall Cyhoeddi Cerddoriaeth
  • Ac un modiwl dewisol, un ai Sgiliau Busnes ar gyfer y Diwydiant Cerddoriaeth neu Addysgu Cerddoriaeth ac Addysgeg.

Mae ein lleoliad, sydd yn agos i'r sin gerddoriaeth fywiog yng Nghaerdydd, yn cynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith, profiad gwaith a rhwydweithio. Byddwn hefyd yn eich annog i gydweithio â cherddorion ac artistiaid eraill yn CAVC er mwyn i chi allu rhoi eich sgiliau ar waith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd byw, gan weithio gyda pherfformwyr mewn amrywiaeth o genres.

Noder: Gallwch wneud cais am y cwrs hwn naill ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol gyda'r Coleg.
Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS, defnyddiwch y manylion canlynol:
Cod Cwrs - W330, Cod Prifysgol - W05, Cod Campws - 1

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £7,500.00

Gofynion mynediad

  • 72 pwynt tariff UCAS o un ai:
    Cyrsiau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru: DDD; 

    Diploma Estynedig BTEC Lefel 3: Teilyngdod, Teilyngdod, Llwyddo;

    Diploma BTEC Lefel 3: Rhagoriaeth

  • Yn ogystal â pherfformiad Gradd 6 ar eich offeryn cyntaf, neu lais, ynghyd â gradd 5 mewn theori cerddoriaeth neu lwyddo yn Uned 27 BTEC (theori cerdd a harmoni)

    Os nad ydych yn meddu ar y graddau hyn, ond rydych yn teimlo eich bod wedi cyrraedd y safon ofynnol, gallwch wneud cais ar gyfer y cwrs hwn. Penderfynir ar eich addasrwydd drwy glyweliad y bydd angen i chi ei fynychu.  Bydd y clyweliad yn anffurfiol ac yn cynnwys cyfweliad cyfeillgar. 

  • Yn ogystal â thri TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu gyfwerth)

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster cerdd lefel 3 gyflwyno portffolio. 

Ymgeiswyr hŷn (21+ oed):

Os nad ydych yn meddu ar y cymwysterau a restrir, ond mae gennych brofiad gwaith perthnasol, mae croeso i chi ymgeisio. Ystyrir eich cais ar sail unigol.

Mynediad Lefel 5 (blwyddyn 2):

Er mwyn cofrestru ar ail flwyddyn y cwrs yn uniongyrchol, bydd angen ichi ddangos gwybodaeth a phrofiad priodol. Er enghraifft, rydych yn ymgeisydd delfrydol os oes gennych 120 o gredydau israddedig ar Lefel 4 neu CertHE mewn pwnc perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

23 Mai 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PCCC5F03
L5

Cymhwyster

Diploma in Higher Education (DipHE) in M

Mwy...

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£5.2 billion

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019).

Bydd cwblhau'r rhaglen DipHE yn llwyddiannus yn cyflymu mynediad i'r Rhaglen Atodol lefel 6 BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth, a gyflwynir yn CAVC
BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth (Atodol)

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE