Cerddoriaeth - UG
Ynghylch y cwrs hwn
Cwrs un flwyddyn yw’r cymhwyster Cerddoriaeth Lefel UG hwn y dylid ei astudio ochr yn ochr â dau neu dri o bynciau eraill yn ogystal â Bagloriaeth Cymru neu fel ychwanegiad at raglen A2. Mae’r cwrs hwn hefyd yn agored i fyfyrwyr rhan-amser.
Caiff yr holl bynciau eu hastudio o safbwynt ymarferol a damcaniaethol a bydd myfyrwyr angen myfyrio’n feirniadol a dod i gasgliadau unigol ynghylch eu cerddoriaeth eu hunain ac eraill.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Nodau’r Cwrs:
Nid yw gwybodaeth flaenorol o’r pwnc yn ofynnol, fodd bynnag mae myfyrwyr sy’n gallu darllen cerddoriaeth a pherfformio ar lefel cyfwerth â Gradd 5 (ABSRM) mewn sefyllfa fanteisiol.
Nodau’r cwrs yw:
- I ddatblygu sgiliau perfformio ar gyfer arddangos dealltwriaeth o elfennau cerddorol, arddull, dehongliad a mynegiant.
I ddatblygu sgiliau cyfansoddi ar gyfer dangos y gallu i ymdrin â syniadau cerddorol- a defnyddio confensiynau.
- I arfarnu genres, arddulliau a thraddodiadau cerddorol cyferbyniol, a datblygu ymwybyddiaeth gydlynol o gronoleg gerddorol.
Yn ystod y cwrs, bydd sylw’n cael ei roi i’r meysydd canlynol:
Uned 1: Perfformio
Perfformiad yn cynnwys lleiafswm o ddau ddarn naill ai fel unawdydd neu fel rhan o ensemble (neu gyfuniad o’r ddau). Mae’n rhaid i un darn gyfleu nodweddion cerddorol un o’r meysydd astudio: Traddodiad Clasurol y Gorllewin (1760-1830), Roc a Phop (1965-1990), Theatr Gerdd, neu Jazz (1940-1965).
Dylai hyd y perfformiad fod rhwng 6 ac 8 munud.
Uned 2: Cyfansoddi
Creu portffolio o ddau gyfansoddiad:
Darn o leiaf un munud o hyd, sy’n defnyddio technegau sy’n gysylltiedig â Thraddodiad Clasurol y Gorllewin. Dylai’r darn hwn ymateb i friff a osodwyd gan yr arholwyr.
Cyfansoddiad rhydd o leiaf 2 funud o hyd sy’n arddangos technegau y mae’r dysgwr wedi eu dewis ei hun.
Uned 3: Arfarnu
Archwilio dau faes o gerddoriaeth (un gofodol, un dewisol):
A: Gorfodol: Traddodiad Clasurol y Gorllewin
Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth drylwyr o Symffoni Rhif. 103 Haydn, “The Drumroll” ynghyd ag astudiaeth o gyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol y cyfnod 1760-1830.
Byddwch yn archwilio
Adeiledd, cyweiredd, alaw a datblygiad thematig
Offeryniaeth a threfniant cerddorfaol
Cyfansoddwyr a gweithiau pwysig
Darllen ac ysgrifennu nodiant cerddorol
B. Opsiynol: (Dewis un o’r canlynol)
Roc a Phop, 1965-1990. Bydd hyn yn cynnwys astudio’r pedwar genre roc a phop o’r cyfnod rhwng 1965 a 1990:
Pop (yn cynnwys Funk a Disco)
Roc (yn cynnwys Roc Blaengar a Roc Trwm)
Soul
Gwlad.
Byddwch yn archwilio:
- Adeiledd, cyweiredd, alaw ac ansawdd
Alaw, harmoni, tempo a rhythm- Defnyddio technoleg cerddoriaeth ac effaith cynulleidfa a pherfformiad
- Artistiaid/bandiau pwysig ym mhob genre
- Sut mae roc a phob wedi newid gydag amser
A. Theatr Cerdd
- Bydd hyn yn cynnwys astudio pedwar cyfansoddwr theatr gerdd:
Cole Porter- Richard Rodgers
- Claude-Michel Schönberg
- Andrew Lloyd Webber.
Byddwch yn archwilio:
- Adeiledd, cyweiredd, alaw ac ansawdd
Mathau o ganeuon a genres o theatr gerdd- Y berthynas rhwng geiriau, cerddoriaeth a chymeriad
- Effaith cynulleidfa a lleoliad ar berfformiad
- Sut mae cerddoriaeth ar gyfer theatr wedi newid gydag amser
B. Jazz, 1940-1965
- Bydd hyn yn cynnwys astudio tri genre jazz a oedd yn boblogaidd rhwng 1940 a 1965:
Band Mawr (yn cynnwys Swing)- Be-bop
- Cŵl.
Byddwch yn archwilio:
- Adeiledd, cyweiredd, alaw a datblygiad thematig
Offeryniaeth ac ansawdd- Cyfansoddwyr a gweithiau pwysig
- Effaith cynulleidfa a lleoliad ar berfformiad
- Sut mae jazz wedi newid gydag amser
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cofrestru rhan amser: £0.00
Gofynion mynediad
Gofyniad Mynediad Pwnc Unigol: Saesneg Iaith, o leiaf: B
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
"Rwyf wrth fy modd yn astudio fy nghwrs yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n gymaint o sbort! Mae'r annibyniaeth a'r rhyddid rydych chi'n eu cael yn wych A chewch eich tri fel oedolyn. Rwyf wrth fy modd. Yn y coleg, mae'n debyg fy mod wedi mwynhau'r perthnasaoedd clos sydd gennyf gyda fy athrawen. Rwyf wirioneddol yn teimlo y gallaf droi at fy athrawon gydag unrhyw broblemau yr wyf yn eu cael ac y byddant yn fy helpi i weithio dryddynt."
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu