Mae'r cwrs yn ail-achrediad ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio mewn amgylchedd cynnal a chadw Cerbydau Nwyddau Trwm, Cerbydau Masnachol Mawr neu Fysiau/Coetsis. Bydd y cwrs hwn yn arwain at ail-achrediad gyda IRTEC/IMI a gellir ei addasu i weddu i amgylcheddau Cerbydau Nwyddau Trwm a Bysiau.
Rhaid i dechnegwyr allu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac yn ddelfrydol dylent fod mewn cyflogaeth lawn amser gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, gwybodaeth a thechnegau sy'n gysylltiedig ag archwilio cerbydau. Rhaid i dechnegwyr sy'n dymuno cyflawni'r achrediad hwn gwblhau asesiad llawn yn llwyddiannus.
Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.
Ar y lefel hon mae'n ofynnol i'r ymgeisydd gyflawni'r modiwlau canlynol a chânt hyfforddiant opsiynol cyn yr asesiad ar eu cyfer:
Asesiad Llawn ac Asesiad Ymarferol
Arholiad - Technegol a Deddfwriaethol
Gellir gwneud yr asesiad ymarferol yn y gweithle. Cynhelir yr arholiadau yn CAVC
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Ffi Cwrs: £375.00
Bydd angen i ymgeiswyr fod ag achrediad Irtec dilys.