Mae'r lefel hon wedi'i ddylunio i'r rheiny sy'n cael eu cyflogi mewn amgylchedd cynnal a chadw Cerbydau Nwyddau Trwm, Cerbydau Masnachol Mawrion neu Fysiau/Coetsys (PCV). Bydd y cwrs hwn yn arwain at achrediad gyda IRTEC/IMI a gellir ei addasu i gyd-fynd ag amgylcheddau Cerbydau Nwyddau Trwm a Bysiau.
Rhaid i dechnegwyr allu gweithio heb arolygiaeth, ac yn ddelfrydol dylent fod mewn cyflogaeth llawn amser gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, gwybodaeth a'r technegau sy'n gysylltiedig ag arolygu cerbydau. Rhaid i dechnegwyr sy'n dymuno cyflawni'r achrediad hwn gwblhau asesiad llawn.
Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.
Ar y lefel hon mae'n ofynnol i'r ymgeisydd gyflawni'r modiwlau canlynol a chânt hyfforddiant opsiynol cyn yr asesiad ar eu cyfer:
Gellir gwneud yr asesiad ymarferol yn y gweithle. Cynhelir yr arholiadau yn CAVC
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £380.00
Rhaid i chi fod ag isafswm o 3 blynedd o brofiad diwydiannol neu Lefel 3 S/NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) a hefyd o leiaf blwyddyn o brofiad mewn amgylchedd diwydiannol perthnasol.