Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (CDP)
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r cysyniad o iechyd meddwl, salwch iechyd meddwl a llesiant. Bydd dysgwyr yn deall fod gan bob unigolyn iechyd meddwl, a sut allant gefnogi eraill. Hefyd, bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth am sut i hunan-reoli eu hiechyd meddwl a llesiant eu hunain.
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno gan hyfforddwr ar-lein, mae'n gwbl ryngweithiol ac yn rhoi cyfle i unigolion ofyn cwestiynau a bod ynghlwm â'u dysgu.
Rydym yn cynnig y cwrs un ai ar ffurf Dyfarniad Lefel 1 achrededig neu Dystysgrif Mynychu Coleg Caerdydd a'r Fro.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
• Deall beth mae iechyd meddwl a salwch iechyd meddwl yn ei olygu
• Deall sut i ofalu am iechyd meddwl a llesiant personol
• Deall sut i gynnig cymorth i aelodau teuluol neu ffrindiau o ran eu hiechyd meddwl a llesiant
• Adnabod adnoddau cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant
Er mwyn cyflawni Dyfarniad HABC Lefel 1, mae'n rhaid i ddysgwyr sefyll asesiad ar-lein yn cynnwys 15 cwestiwn aml-ddewis, a chyflawni 60% er mwyn pasio.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu