Cyflwyniad i Wasanaethau Adeiladu (Plymio a Thrydanol)

L1 Lefel 1
Rhan Amser
15 Gorffennaf 2024 — 19 Gorffennaf 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Os ydych yn awyddus i roi hwb i'ch gyrfa ac ennill dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o ystod o grefftau yn y Diwydiant Gwasanaethau Adeiladu, yna mae ein Diploma Lefel 1 Aml Sgiliau yn lle rhagorol i ddechrau arni. Mae'r cymhwyster hwn yn berffaith i'r unigolion hynny sy'n awyddus i gael cyflwyniad i'r ystod o wasanaethau adeiladu adeiladwaith sydd ar gael, a bydd yn gymorth i chi benderfynu pa grefft sy'n gweddu fwyaf ar eich cyfer chi. Yn cael ei addysgu yn ein canolfannau a chyfleusterau adeiladwaith pwrpasol, bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod o sgiliau llaw a thasgau ymarferol yn y meysydd crefft canlynol: Plymio & Mewnosod Trydanol. Nid oes angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau yn ein hystafelloedd dosbarth a gweithdai pwrpasol, gan ddefnyddio offer a deunyddiau addas. Mae'r cwrs hwn wedi'i wneud o nifer o unedau gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i iechyd a diogelwch mewn adeiladwaith
  • Cyflwyniad i'r diwydiant adeiladwaith
  • Plygu ac uniadu peipiau copr
  • Gweithio gyda ffitiadau heb driniaeth
  • Adeiladu fframiau cyfunol (Copr, Plastig, Dur Carbon Isel)
  • Mewnosod nwyddau dŵr glaw
  • Gweithio gyda pheipiau a ffitiadau dur carbon isel
  • Tynnu ac ail-osod gwresogydd llawn dŵr
  • Cysylltu fflecs i offer cyffredin
  • Adeiladu systemau gwifriad PVC
  • Mewnosod cylchredau goleuo un ffordd
  • Mewnosod cylchredau goleuo ddwy ffordd
  • Cydosod socedi â swits 13 amp wedi'u weirio mewn cylchred gylch derfynol
  • Torri, plygu, uno a thrywyddu cwndid
  • Teilsio wal blaen

Gofynion mynediad

3 TGAU Gradd A*-D. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad ac archwiliad sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs y maen nhw am ei astudio.

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rwy’n mwynhau dysgu fy nghrefft yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r athrawon yn hynod wybodus a chefnogol. Rwy’n edrych ymlaen at gymhwyso a dechrau fy musnes fy hun.

Ibraheem Fergani
Myfyriwr Plymwaith a Theilsio Lefel 3 presennol

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

9.1%

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus fynediad i amrywiaeth o lwybrau gyrfa, gan gynnwys Rheoli Adeiladu, Pensaernïaeth a Pheirianneg Sifil.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.