Lletygarwch

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd ein cwrs Lletygarwch 1 flwyddyn yn addas i ddysgwyr sydd eisoes wedi cyflawni VRQ Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd, neu rywun sydd â phrofiad a sgiliau proffesiynol fel cogydd, lle'r ydych wedi gweithio o dan oruchwyliaeth neu ar flaen y tŷ yn y diwydiant gweini bwyd a diod. Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd yn awyddus i ennill cymwysterau ffurfiol a chynyddu eu sgiliau, fel y gallant ymgymryd â rôl uwch un diwrnod.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos y gallant weithio ar eu pennau eu hunain ac fel rhan o dîm, a gweithio yn ein bwy+A84ty ciniawa cain ar sail rota. Mae'n bosibl y bydd cyfle hefyd i bob dysgwr ymweld â sioeau masnach megis Hotelympia a gwahanol sefydliadau perthnasol. Asesir y cwrs Diploma trwy ateb cwestiynau byrion ac asesiadau ymarferol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Er mwyn ennill y cymhwyster Coginio Proffesiynol a Gwasanaeth Bwyd VRQ L2, bydd rhaid i'r dysgwr gyflawni unedau'n llwyddiannus yn cynnwys modiwlau megis:

  • Datblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch
  • Iechyd a diogelwch mewn arlwyaeth a lletygarwch
  • Bwydydd iachach a deietau arbennig
  • Gweithrediadau arlwyo, costau a chynllunio bwydlenni
  • Paratoi a choginio stociau, cawliau a sawsiau
  • Paratoi a choginio cig ac offal
  • Paratoi a choginio dofednod
  • Paratoi a choginio pysgod a physgodyn cragen
  • Creu pwdinau poeth ac oer
  • Deddfwriaeth gwasanaethau bwyd a diod
  • Gwybodaeth o fwydlenni, eu dylunio ac adnoddau
  • Egwyddorion gwybodaeth cynnyrch diod
  • Gweini diodydd poeth
  • Sgiliau gweini bwyd a diod
  • Ymdrin â thaliadau a chynnal y pwynt talu

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr ddewis i symud ymlaen at Goginio Proffesiynol Lefel 3 neu fynd yn syth at gyflogaeth yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo.

Gofynion mynediad

4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel dewis arall, cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.

Addysgu ac Asesu

  • Arholiad ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, arholiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

20.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CTCC2F04
L2

Cymhwyster

City & Guilds Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.

Ruby Pile
Myfyriwr Rheolaeth Lletygarwch lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd yn eu blaenau i fod yn rheolwyr arlwyo neu reolwyr gwestai, neu barhau ar lwybr dilynol, megis:

  • Lefel 3 Coginio Proffesiynol (VRQ)
  • Lefel 3 Coginio Proffesiynol (NVQ)
  • Lefel 3 Gwaith Patisserie a Melysion Proffesiynol (VRQ)
  • Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd a Diod (NVQ)
  • Prentisiaeth Uwch

Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar wahanol gyfleoedd gwaith yn y diwydiant.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE