Mae awyrofod yn un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU gyda chyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae'r sector wedi profi twf cyson yn ystod blynyddoedd diweddar, ac yn cefnogi nifer cynyddol o swyddi sgiliau uchel a gwerth uchel. Os ydych yn frwd dros awyrennau, neu os ydych eisiau dod yn beiriannydd gyda sgiliau peirianneg eang ac amrywiol, sy'n berthnasol ar draws ystod eang o ddiwydiannau, mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi.
Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod. Byddwch yn cael eich addysgu gan staff peirianneg profiadol sydd â phrofiad perthnasol o'r diwydiant yn y sector peirianneg awyrenegol.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – AG02, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - D, Enw Campws – Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unigolion sydd eisiau symud ymlaen i reoli technoleg awyrofod neu ennill cydnabyddiaeth broffesiynol, drwy symud ymlaen i Statws Peiriannydd Corfforedig. Mae'r cwrs yn ymdrin â
Blwyddyn 1 (llawn amser) - lefel 4:
Blwyddyn 2 (llawn amser) lefel 5:
Mae'r rhaglen hon yn dilyn patrwm modwlar a bydd myfyrwyr yn astudio cyfwerth â 120 credyd ym mhob blwyddyn academaidd (cyfwerth ag amser llawn)
Wedi ichi gwblhau'r HND yn llwyddiannus, mae hefyd modd ichi symud ymlaen i ail / trydedd flwyddyn y radd tair blynedd.
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau eu hastudiaethau lefel 4 yn llwyddiannus yn ennill HNC mewn Peirianneg Awyrenegol a byddant yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth ddiwydiannol yn y sector awyrofod.
Ffioedd Dysgu: £6,000.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch symud ymlaen i'r BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau yn CAVC.