Sylfeini Gweithio ym Maes Iechyd a Gofal

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi ei baratoi ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol sy'n dymuno dechrau eu gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant.

Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu hyder, gwytnwch, a dealltwriaeth o hunanreolaeth wrth iddynt ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i’r maes iechyd/gofal cymdeithasol/gofal plant.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu’n syth i Lefel 2 ar gyfer y rhai sy’n ennill y lefel briodol mewn Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol fydd yn rhoi cipolwg ar faes iechyd a gofal i'r dysgwr, sy'n faes gwerth ei wneud.

Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei gynllunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd E-G, gan gynnwys Saesneg Iaith. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL