Rheoli Lletygarwch
Ynghylch y cwrs hwn
Pwrpas uwch gymwysterau BTEC mewn Rheoli Lletygarwch yw datblygu myfyrwyr fel unigolion proffesiynol, hunan-adlewyrchol sy’n gallu cwrdd â gofynion cyflogwyr mewn Rheolaeth Lletygarwch ac addasu i fyd sy’n newid o hyd. Nod y cymwysterau yw ehangu mynediad i addysg uwch a gwella rhagolygon gyrfa’r rhai sy’n ymgymryd â hwy.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r dystysgrif genedlaethol uwch lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch yn cynnig cyflwyniad eang i fyfyrwyr i’r maes pwnc trwy graidd gorfodol o ddysgu, tra’n galluogi caffael sgiliau a phrofiad trwy ddethol unedau dewisol ar draws ystod o sectorau galwedigaethol ar lefel 4. Mae hyn i bob pwrpas yn adeiladu sgiliau craidd tra’n paratoi’r myfyriwr ar gyfer arbenigedd pwnc ar Lefel 5. Bydd myfyrwyr yn ennill ystod eang o wybodaeth sector sy’n gysylltiedig â sgiliau ymarferol a gafwyd mewn ymchwil, hunan-astudio, astudio dan gyfarwyddyd a senarios gweithle.
Ar Lefel 4 mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth eang o agweddau allweddol ar letygarwch trwy bum uned graidd, sy’n cynnwys un uned a aseswyd gan aseiniad a osodwyd gan Pearson.
Yr unedau yw:
- Y Diwydiant Lletygarwch Cyfoes
- Rheoli Profiad y Cwsmer
- Hunaniaeth ac Ymarfer Proffesiynol
- Y Pecyn Cymorth Lletygarwch
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Diwydiannau Gwasanaeth (uned wedi'i gosod gan Pearson).
Addysgir y cwrs hwn yn ein bwyty mewnol sydd wedi ennill gwobrau 2 AA Rosette – Y Dosbarth.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £2,400.00
Gofynion mynediad
Yn achos myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, mae'r proffil mynediad yn debygol o gynnwys 48 pwynt tariff UCAS a gafwyd o un o'r canlynol: ● Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (gyda phroffil Teilyngdod yn ddelfrydol) ● Proffil Lefel Uwch TAG sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) ● Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill ● Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy ● Profiad gwaith cysylltiedig ● Cymwysterau rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Mae dilyniant o'r cwrs hwn yn parhau i Lefel 5 HND mewn Rheoli Lletygarwch neu fynd â’ch gyrfa ymhellach mewn diwydiant/cyflogaeth.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu