HNC mewn Peirianneg
Ynghylch y cwrs hwn
Mae'r cwrs yn cynnig nifer o opsiynau i rai sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes Peirianneg. Os ydych yn brentis neu wedi astudio cwrs Peirianneg lefel 3 amser llawn mewn Peirianneg Gyffredinol, Gwaith Trydanol/Electroneg, Gweithgynhyrchu, Gwaith Mecanyddol neu Fecatroneg, mae'r cwrs hwn yn gam delfrydol ymlaen tuag at radd neu ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
Byddai'r cwrs hwn hefyd yn helpu dysgwyr sy'n awyddus i ychwanegu at eu pwyntiau UCAS drwy ennill unedau Peirianneg ychwanegol.
Gallwn gynnig yr opsiwn amser llawn a'r opsiynau rhan-amser, gan roi'r hyblygrwydd i chi allu mynychu o gwmpas ymrwymiadau gwaith neu amgylchiadau personol.
Ceir bwlch sgiliau cynyddol a phrinder talent yn y gweithlu Peirianneg. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol, effeithlonrwydd a gweithgynhyrchu uwch wedi dod yn hanfodol i gwsmeriaid. Yn ffodus, mae datblygiadau ym maes technoleg yn rhoi inni'r cyfle i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymdeithas a'n planed. Mae Peirianwyr yn dylunio, gwneud a gwella'r amrywiaeth eang o dechnoleg sydd o'n cwmpas - o geir ac awyrennau i esgidiau chwaraeon, dyfeisiau symudol ac amrywiaeth eang o brosesau gweithgynhyrchu uwch. Mae peirianwyr wedi cael dylanwad ar ran sylweddol o'r byd modern. Nhw sydd wedi rhoi inni ffonau symudol, gorsafoedd pŵer niwclear, peiriannau anadlu mecanyddol, argraffu 3D a lled-ddargludyddion - gallai'r rhestr fynd ymlaen am byth. Mae swyddi peirianneg ar gael ar bob lefel.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
- Llwybr I:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Drydanol ac Electronig)
- Llwybr II:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Gweithgynhyrchu)
- Llwybr III:HNC/D Peirianneg (Peirianneg Fecanyddol)
- Llwybr IV: HNC/D Peirianneg (Peirianneg Gyffredinol)
Lefel 4 HNC Peirianneg (Unedau Craidd)
Rhif y Modiwl | Teitl y Modiwl | Lefel | Gwerth Credydol |
| Craidd | | |
1 | Dylunio Peirianneg | 4 | 15 |
2 | Gwyddoniaeth Peirianneg | 4 | 15 |
3 | Mathemateg Peirianneg | 4 | 15 |
4 | Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol (gosodir gan Pearson) | 4 | 15 |
Bydd unedau dewisol yn wahanol ar sail llwybrau unigol sy'n cael eu rhedeg, yn dibynnu ar recriwtio. Efallai y bydd hyn yn gofyn am fynychu safle arall.
Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys profion, arholiadau, aseiniadau, astudiaethau achos a phrosiectau (cysylltiedig â gwaith).
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £1,920.00
Gofynion mynediad
Yn achos myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, mae'r proffil mynediad yn debygol o gynnwys 48 pwynt tariff UCAS a gafwyd o un o'r canlynol: ● Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (gyda phroffil Teilyngdod yn ddelfrydol) ● Proffil Lefel Uwch TAG sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) ● Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill ● Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy ● Profiad gwaith cysylltiedig ● Cymwysterau rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Astudio Pellach
- Gall dysgwyr HNC symud ymlaen i'r ddarpariaeth HND
- Gradd addas mewn prifysgol leol.
- Gradd Meistr
Cyfleoedd cyflogaeth posib
- Technegwyr Peirianneg a Pheirianwyr
- Gweithredwyr Technegol
- Rheolwyr peirianneg
Yn ôl Adzuna (gwefan swyddi a gyrfaoedd - Mai 2020):
Y cyflog cyfartalog ar gyfer yr holl swyddi Peirianneg yw £37,910. Mae hyn yn uwch na chyflog cyfartalog yr holl swyddi sy'n cael eu hysbysebu, sef £34,291.
Adroddiadau Sgiliau a Galw mewn Diwydiant yr IET:
- Yn ôl 60% o gyflogwyr, recriwtio staff peirianneg a thechnegol sydd â'r sgiliau priodol yw'r rhwystr mwyaf a ddisgwylir wrth geisio cyflawni amcanion busnes dros y tair blynedd nesaf.
- Dywed 48% y ceir anawsterau o ran y sgiliau sydd ar gael yn y farchnad lafur allanol wrth geisio recriwtio
- Mae 81% yn cytuno bod gan fusnesau gyfrifoldeb i gefnogi'r datblygiad o addysg a hyfforddiant i fyd gwaith, er mwyn cael pobl sydd â'r sgiliau cywir.
- Mae galw mawr am beirianwyr! Mae 19% o holl weithlu'r Deyrnas Unedig wedi'i gyflogi yn y sector peirianneg - ond ceir pryderon o hyd nad yw'r genedl yn cynhyrchu digon o beirianwyr cymwys.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu