HNC mewn Artistwaith Colur Technegol, Teledu, Ffilm a Theatr
Ynghylch y cwrs hwn
Mae artist colur yn sicrhau bod gan fodelau, perfformwyr a chyflwynwyr golur a steiliau gwallt addas ar gyfer ymddangos o flaen camerâu neu gynulleidfa. Mae hyn yn cynnwys;
- ffilm
- cerddoriaeth fyw
- tynnu lluniau ffotograffig
- teledu
- theatr.
Mae'n rhaid i artist colur feddu ar ddawn greadigol, gallu ymarferol a gwybodaeth ddiweddar ar dueddiadau ffasiwn a harddwch. Mae'r gwaith yn cynnwys creu delweddau a chymeriadau drwy ddefnyddio colur, steiliau gwallt a phrostheteg gan gadw at friff.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad eang i fyfyrwyr i'r maes pwnc drwy graidd gorfodol o ddysgu, a hefyd yn caniatáu i ddysgwyr gaffael sgiliau a phrofiad drwy ddewis unedau dewisol perthnasol.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – RS02, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae modiwlau HNC yn cynnwys:
- Y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
- Datblygiad Proffesiynol
- Sgiliau Colur Heneiddio
- Rhoi Celf ar y Corff
- Effeithiau Arbennig
- Rhoi Colur a Thrin Gwallt
- Gwallt a Cholur Ffasiwn Golygyddol a Ffasiwn
- Gwallt a Cholur Cyfnod
Mae ffioedd ychwanegol yn cynnwys:
DBS: £45.05
Gwisg: £45 ynghyd ag esgidiau du gwastad caeëdig
Pecyn prosthetig: £116 (gorfodol)
Pecyn colur ffasiwn: £192.60
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd : £45.05
Ffioedd Dysgu: £6,000.00
Cit/Deunyddiau : £308.60
Ffi Gwisg: £45.00
Gofynion mynediad
- Cymhwyster Lefel 3 mewn colur, gwallt a/neu bwnc perthnasol.
- Efallai y bydd cymwysterau Lefel 3 eraill yn cael eu hystyried. Yn ogystal,
- TGAU mewn Mathemateg a Saesneg gyda lleiafswm o radd C (neu 4)
- Mae Ceisiadau Rhyngwladol angen IELTS 5.5; Mae'n rhaid i safon Darllen ac Ysgrifennu gyrraedd 5.5 Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, heb y gofynion mynediad sylfaenol ond rhoddir ystyriaeth i brofiad gwaith perthnasol.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Gall ymgeiswyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn fynd ymlaen i astudio HND lefel 5 mewn Artistwaith Colur Technegol, Teledu, Ffilm a Theatr (yn ddibynnol ar nifer digonol o fyfyrwyr yn cael eu recriwtio).
Fel arall, bydd dysgwyr llwyddiannus yn dilyn gyrfa weinyddol, rheoli neu fasnachol.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu