Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformio
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r Radd Sylfaen yma mewn Celfyddydau Perfformio’n gyfle cyffrous i’r unigolion hynny sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn actio neu weithio yn y diwydiant celfyddydau perfformio. Wedi’i lleoli ar ein campws ni yng nghanol y ddinas yng Nghaerdydd, bydd y rhaglen hon yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn paratoi’r dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y sector neu astudiaethau academaidd pellach. Hefyd bydd yr elfen dysgu seiliedig ar waith o’r cwrs yn cynnig cyfle i unigolion ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth maent yn eu dysgu ym myd gwaith. Bydd y myfyrwyr yn elwa o gael eu dysgu gan ddarlithwyr sydd, yn ogystal â bod yn arbenigwyr yn eu maes, yn actorion a chyfarwyddwyr eu hunain ac mae ganddynt gysylltiadau cryf â theatrau a chwmnïau lleol fel TVO, Spectacle a National Theatre Wales.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – CR02, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Mae’r modiwlau’n cynnwys y canlynol:
- Actio a Chyfarwyddo
- Safbwyntiau ar Berfformio
- Pecyn Offer Technegol y Cyfryngau a Pherfformio
- Prosiect Ymarferol y Celfyddydau Perfformio
- Gŵyl Theatr
- Drama Gymhwysol
- Prosiect Ymarferol Diwydiannau Creadigol
- Lleoliad Gwaith Diwydiannau Creadigol
Bydd Ffi ychwanegol o £15 ar gyfer ymweliad Pantomeim ar gyfer y modiwl Safbwyntiau ar Berfformio.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Taith : £15.00
Gofynion mynediad
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi. Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol - DD Cynnig BTEC Nodweddiadol - proffil Teilyngdod/Llwyddo neu Lwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei hystyried yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol, llwyddo mewn tri phwnc TGAU gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs
Addysgu ac Asesu
- Aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, asesiadau seiliedig ar waith a phortffolio
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Theatr Genedlaethol Cymru
Ar ôl cwblhau’r cwrs yma, gallwch ychwanegu at y cymhwyster i gael BA (Anrh) Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol De Cymru. Hefy bydd llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i yrfaoedd cysylltiedig ym maes Celfyddydau Perfformio.
Cefnogaeth Dysgu