Gradd Sylfaen mewn Cymorth Dysgu
Ynglŷn â'r cwrs
Mae ein cwrs Gradd Sylfaen Addysg, Dysgu a Datblygiad, a achredir gan Brifysgol De Cymru. Yn addas ar gyfer Cynorthwywyr Cymorth Dysgu profiadol sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y sector cynradd. Fel arfer brofiad ymlaen llaw mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gynradd.
Bydd y cwrs hwn yn:
- Eich galluogi i wella'ch gwaith mewn cymorth dysgu yn eich ysgol
- Rhoi sylfaen ar gyfer ymarfer proffesiynol sy'n fedrus, ymwybodol a chytbwys
- Rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder i wneud eich rôl
- Rhoi cymhwyster sy'n seiliedig ar safonau cenedlaethol perthnasol
- Rhoi strwythur cefnogol, datblygiadol ar gyfer dysgu seiliedig ar weithio
Beth fyddwch yn ei astudio?
Ymhlith modiwlau'r cwrs mae:
- Llythrennedd. Rhifedd a Llythrenedd Digidol
- Sgiliau Academaidd ac Ymarfer Myfyriol
- Dysgu a Gwybyddiaeth
- Iechyd, Lles a Gwytnwch *Cyflwyniad i Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Prosiect Ymchwil
- Cwricwla *Ymarfer Cynhwysol *Ymarfer Myfyriol 2
- Iechyd Meddwl Plant a Glaslanciau
Am wybodaeth am ffïoedd a chefnogaeth ariannol ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch Rhan-amser cliciwch yma
Beth yw gradd sylfaen?
Mae Graddau Sylfaen yn integreiddio dysgu academaidd a dysgu yn y gwaith trwy gydweithredu rhwng cyflogwyr a darparwyr rhaglenni. Eu bwriad yw rhoi sgiliau a gwybodaeth i ddysgwyr sy'n berthnasol i'r diwydiant ac annog dysgwyr y mae'n bosib nad ydynt yn flaenorol wedi ystyried astudio ar gyfer cymhwyster lefel uwch i gymryd rhan. Mae Graddau Sylfaen yn rhoi cymhwyster annibynnol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd dilyniant i astudio ymhellach. I gael rhagor o wybodaeth am nodweddion diffiniol Graddau Sylfaen, gallech gyfeirio at yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd [Datganiad Meincnod Graddau Sylfaenol] (http://www.qaa.ac.uk/Publications/InformationAndGuidance/Pages/Foundation-Degree- cymhwyster-meincnod-Mai-2010.aspx)
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £2,880.00
Gofynion mynediad
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi ar sail unigol:
- Cynnig Lefel Uwch nodweddiadol - DD
- Cynnig BTEC nodweddiadol - proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Theilyngdod/Llwyddo neu Lwyddo/Llwyddo/Llwyddo
- Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol - Gradd C a DE ar lefel Safon Uwch.
- Cynnig Mynediad at Addysg Uwch nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 60 credyd yn gyffredinol yn cynnwys 45 credyd ar lefel 3 wedi Llwyddo yn y cwbl.
- Yn ogystal, llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch i gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth).
Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs.
Mae cymwysterau addas yn cynnwys CLANSA/OCR Lefel 3/CACHE Lefel 3 /NNEB, DWS, Mynediad, HNC neu HND. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hystyried yn dibynnu ar gyflogaeth a phrofiad perthnasol arall, yn ogystal ag arddangos parodrwydd i astudio ar Lefel Gradd Sylfaenol. Dylai dysgwyr fod yn gweithio eisoes, gyda thâl neu ddim, am leiafswm o 12 awr yr wythnos mewn amgylchedd addysgiadol. Dylai dysgwyr feddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad o weithio mewn swydd Cefnogi Dysgu.
Addysgu ac Asesu
*Portffolio ac aseiniadau parhaus
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallai ymgeiswyr llwyddiannus gael cynnig opsiwn BA (Anrhydedd) mewn Addysg: Dysgu a Datblygiad (cyfnod penodol ychwanegol), y gellir hefyd ei gyflawni yn CAVC. Byddai'n ofynnol astudio am ddwy flynedd arall yn rhan-amser i wneud hyn. A fyddech cystal â gweld ein taflen ffeithiau BA (Anrhydedd) mewn Addysg: Dysgu a Datblygiad (cyfnod penodol ychwanegol) am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu