Gradd Sylfaen mewn Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ynglŷn â'r cwrs
Mae gan y cwrs rheoli iechyd a gofal cymdeithasol ddull gweithredu amlasiantaethol sy’n cwmpasu gwasanaethau cymdeithasol, y GIG, asiantaethau’r trydydd sector a sectorau annibynnol.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – HC03, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCA
Beth fyddwch yn ei astudio?
Byddwch yn ennill ymchwil hanfodol, yn cynnwys rheoli cymorth, cydlynwyr gwasanaeth a rolau rheoli iechyd a gofal eraill. Mae gennym fodiwlau lleoliad a all gyfrannu at leoliadau gwaith gofal presennol.
Yn ystod Blwyddyn 2 byddwch yn canfod lleoliad neu waith rhan amser mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol gan roi cyfle i chi weithio gydag amrywiaeth o bobl mewn amgylchedd amlasiantaethol.
Blwyddyn un: Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sgiliau ar gyfer Addysg Uwch – 20 credyd
- Ymchwilio i Iechyd a Lles – 20 credyd
- Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi – 20 credyd
- Sgiliau Cyflogadwyedd 1 – 20 credyd
- Cyflwyniad i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol – 20 credyd
Blwyddyn dau: Gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cymunedau a Chymdeithas – 20 credyd
- Rhoi Ymchwil ar Waith yn Ymarferol – 20 credyd
- Cyfathrebu ac Ymyrryd – 20 credyd
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth Integredig – 20 credyd
- Sgiliau Cyflogadwyedd 2 a Moeseg - 40 credyd
Addysgu ac Asesu
- Asesiad parhaus ac asesiadau gwaith cwrs
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd : £45.05
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Gofynion mynediad
Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad nodweddiadol isod ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich portffolio o brofiad gwaith a bywyd yn cael ei ystyried mewn cyfweliad. Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi. Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu hŷn, ac o ran mynediad sylfaenol mae angen lleiafswm o 48 pwynt tariff UCAS, sy'n cael eu hadlewyrchu yn y cynigion isod: Cynnig Safon Uwch Nodweddiadol - DD Cynnig BTEC Nodweddiadol - proffil Llwyddo/Llwyddo/Llwyddo mewn BTEC lefel 3 perthnasol Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei hystyried yn lle un cymhwyster Safon Uwch ar y graddau a nodwyd, ac eithrio unrhyw ofynion sy'n benodol i bwnc Cynnig Mynediad i AU Nodweddiadol - Llwyddo mewn Diploma gyda 45 credyd ar lefel 3 mewn pwnc perthnasol Yn ogystal â Llwyddo ar lefel TGAU mewn tri phwnc gyda gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Gall cyfweliad llwyddiannus gydag Arweinydd Cwrs, neu aelod arall o'r tîm, hefyd fod yn ofyniad er mwyn cael dilyn y cwrs.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Wedi'i achredu gan:
Cyfleusterau
Mwy
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu